Edwin Morris
Edwin Morris | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mai 1894 Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Bu farw | 19 Hydref 1971 Llanbedr Pont Steffan |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, offeiriad |
Swydd | esgob |
Cyflogwr |
Roedd Alfred Edwin Morris (8 Mai 1894 – 19 Hydref 1971) yn Archesgob Cymru o 1957 hyd 1967.
Ganed ef yn Lye yng nghanolbarth Lloegr yn fab i Alfred Morris a Maria Lickert. Gadawodd yr ysgol yn ddeuddeg oed i fynd i weithio yng musnes genwaith ei dad. Pan benderfynodd yn ddiweddarach fod arno eisiau bod yn offeiriad, awgrymodd y ficer lleol, oedd yn Gymro, ei fod yn astudio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr.
Wedi graddio o Lanbedr bu'n astudio ymhellach yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Dychwelodd i Lanbedr fel Athro Hebraeg a Diwinyddiaeth, ac yn 1942 bu'n faer y dref.
Yn 1945 etholwyd ef yn Esgob Mynwy, yna yn 1957 yn Archesgob Cymru. Yn ystod ei gyfnod fel Archesgob bu rhywfaint o ddadlau ynglŷn â'r iaith Gymraeg; ni ddysgodd Gymraeg ac roedd teimlad nad oedd ganddo lawer o gydymdeimlad a'r iaith. Ymddeolodd yn 1967, a bu farw yn Llanbedr yn 1971.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- The Church in Wales and Nonconformity (1949)
- The Problem of Life and Death (1950)
- The Catholicity of the Book of Common Prayer (1952)
- The Christian Use of Alcoholic Beverages (1961)
Rhagflaenydd : John Morgan |
Archesgob Cymru Edwin Morris |
Olynydd : William Glyn Hughes Simon |