Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Baglan
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBontnewydd Edit this on Wikidata
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.121°N 4.3095°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iBaglan Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Eglwys Sant Baglan neu Hen Eglwys Llanfaglan fel y gelwir yn lleol yn eglwys ym mhentref Llanfaglan, Gwynedd. Saif tua 3 cilometr i'r de o Gaernarfon.

Mae'r eglwys fach hynod hon yn sefyll ar fryn yn edrych dros draeth Y Foryd a bae Caernarfon. Mae yma olygfa hynod draw am fynyddoedd Eryri fel y Wyddfa, Crib Nantlle yr Eifl ac Ynys Llanddwyn Cyfeirnod Grid SH455606. (Saesneg: St Baglan's Church)

Erbyn heddiw mae yna ddwy safle treftadaeth y byd UNESCO ger yr eglwys, Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru i'r dwyrain a Chaernarfon.

Dyddiau cynnar

[golygu | golygu cod]

Mae'r eglwys a'r fynwent yn sefyll ar safle hen loc yn dyddio o tua dechrau'r oes haearn. Daeth y lloc yma i'r fei yn 2005 drwy waith archwilio gan Toby Driver o'r Comisiwn Henebion, wrth iddo dynnu lluniau o awyren o arfordir Arfon. Gweler y ddolen yma (Saesneg) https://coflein.gov.uk/en/site/403370/

Yr adeilad

[golygu | golygu cod]

Mae rhan hynaf, sef corff yr eglwys yn dyddio o tua'r 13g. fe godwyd y rhan deheuol yn ystod hanner cyntaf yr 16g, tua 1510 / 1540 gallwn weld tystiolaeth o hyn o'r ategion to (windbrace) gyda cromlin ynddynt. Gwelir rhain mewn adeiladau eraill yn Eryri yn y cyfnod hwn (llyfr Darganfod Tai Eryri, gan y Comisiwn Henebion). Fe ddychwelwyd y rhan dwyreiniol, sef yr allor a'i ail godi tua 1801-08. Cyn hyn roedd yr allor yn gylach nag ydio rwan o ryw fedr. Gwelwn gynllun "terrier" o'r eglwys o 1788, adeg hynny roedd meinciau o amgylch y rhan yma, gyda bwrdd yng nghanol y llawr ble gwelwn y pulpud presennol. Y tu allan, sylwch ar y wal ogleddol, gwelwch fod yma gerrig wedi eu trin wedi eu defnyddio yma, mae rhain wedi dod o gastell Caernarfon. Sylwch hefyd ar yr uniad yn y wal.

Porth yr eglwys

[golygu | golygu cod]

Tua 1801 i 1808 y codwyd hwn, nid oedd porth yma yn 1788. Er bod y gwaith coed yn llawer hyn, coed o do yr hen allor gwelwn yma. Sylwch ar y ddwy garreg fedd gyda chroes Geltaidd, sydd wedi eu defnyddio fel silff a lintel i'r bwlch ar yr ochr chwith wrth fynd i mewn i'r eglwys. Mae'r garreg isaf gyda cherflun cwch arni ac mae wedi ei naddu yn yr un cyfnod a'r groes, a dim ond croes Geltaidd sydd ar y garreg wedi defnyddio fel lintel Ond nid dyma'r unig fersiwn o'r porth yma.

Pan welodd gwr o Awstralia lun o'r porth yma, fe gododd porth ei du o'r un patrwm ag un Llanfaglan yn ei gartref yn Castlemaine.

Drws yr eglwys

[golygu | golygu cod]

Drws o ddechrau'r 19g yw hwn, cafodd ei osod pan wnaethpwyd y gwaith adnewyddu yn nechrau'r ganrif honno. Y patrwm i lawr pob darn o goedyn yn y drws sydd yn ein galluogi i'w ddyddio. Gwelwch graffiti ar y drws, ond yn anodd i'w weld oherwydd y paent trwchus.

Y faen bedydd

[golygu | golygu cod]

Mae hwn yn faen bedydd a saith ochr iddo ac yn dyddio o'r 14g, un o saith yng Nghymru. Mae'r saith ochr yn dynodi y saith sacrament. Sylwch mai wyth ochr sydd i'r caead, daeth hwn o'r eglwys newydd ar ôl iddi gau yn yr 1980'au. Gwnaethpwyd y caead hwn gan Mr Lort o'r Bontnewydd yn 1935 er cof am ei wraig, sylwch ar y plat pres ar y caead. Cyn hyn caead crwn oedd i'r faen, (Llyfr An Inventory of Ancient Monuments in Caernarfonshire. Nash Williams).

Gwelwch feini bedydd saith ochr eraill yng Nghymru yn eglwys Sant Pedr Pwllheli, Capel Rhug ger Corwen, Eglwys Betws Cedewain, Powys, Eglwys Llanilar, Eglwys Tregaron ac eglwys Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Y pulpud

[golygu | golygu cod]

Gwelwn mai 1767 yw'r dyddiad ar y pulpud, ond nid oedd yna bulpud yn yr eglwys ar gynllun "Terrier" yr eglwys yn 1788. Daeth hwn o Eglwys Sant Gwyndaf, yn Dinas Llanwnda (SH476587) pan gafodd honno ei ail adeiladu yn ystod y 19g.

Mae'r pulpud gyda dau lawr, un i ddarllen y beibl a'r llall i bregethu, sylwch ar y bwrdd sain uwch ei ben.

Carreg fedd Brythoneg

[golygu | golygu cod]

Uwchben y drws, mae carreg fedd wedi ei ail ddefnyddio fel lintel. Mae hon yn dyddio o ddiwedd y 5ed i ddechrau'r 6g, ac yn un bwysig iawn. Y geiriau wedi eu naddu arni yw Fili Lovernii Anatemori, yn wreiddiol roedd y garreg hon ar ei fyny, a'r ffordd gywir y buasai'n darllen yw Anatemori Fili Lovernii, sef carreg Anatemori mab Loverni, neu Anatemarios mab Lovernius. Ystyr Anatemori yw Enaidfawr, a Llywern yw Lovernus, Gwelwn yn y Gernwyeg Lowern, ac yn y Lydaweg Lovern, dyma'r gair am lwynog yn y ddwy iaith yma. Mae yn enw personol yn Llydaw.

Dyma un o ychydig gerrig beddi gyda enwau Brythoneg, carreg bwysig iawn yn hanes yr iaith Gymraeg. Gwelir un garreg arall yng Nghymru a'r enw Lovernacii arni yn eglwys Merthyr ger Caerfyrddin.

Carreg leol yw hon ac mae wedi dod o lannau'r Fenai.

27 Hydref 1284

[golygu | golygu cod]

Yn yr eglwys hon fe benododd Esgob Anian o Fangor ddau atwrnai i gasglu iawndal am y niwed achoswyd i adeiladau eglwysig yr esgobaeth yn ystod y rhyfel rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Edward 1af. Cofnod o Liber A.

Cerrig eraill y tu mewn i'r eglwys

[golygu | golygu cod]

Mae ambell i garreg coffa ar y wal y tu mewn i'r eglwys. Gwelwn un gyda'r ysgrifen mewn llinellau (ochr chwith yr allor). Gwnaethpwyd hon gan brentis, sylwch yn fanwl ar y blerwch arni.

Ar ochr dde o'r allor gwelwn lechen gyda'r flwyddyn wedi ei nodi 17389 mae calendr Julian a Gregoraidd yn cael eu nodi yma

Mae carreg fawr wen o farmor yn nodi teulu Cefn Coed Llanfaglan, David a Margaret Jones. Gwr gweddw 50 oed a oedd wedi priodi dwy waith ynghynt oedd David Jones. Roedd wedi cymryd ffansi at Margaret, neu Peggy fel y galwyd, ac fe ysgrifennodd lythyrau ati i ennill ei chalon. Roedd Peggy yn byw yn Bodfan Llandwrog. Ym mis Rhagfyr 1764, priododd y ddau yn eglwys Llandwrog, dwy flynedd ers i David ddechrau cysylltu a Pegi, roedd David adeg yma yn 52 mlwydd oed, a Peggy yn 20 oed. Cafodd y ddau 9 o blant. Nid oes sôn am y merched.

Dyma beth ddigwyddodd i dri o'r meibion dyfodd i fod yn oedolion:

  • Fe laddwyd Peter ar ôl syrthio oddi ar ei geffyl ar allt Y Bontnewydd.
  • Bu farw Richard yng ngwesty'r Hibernian yn Stryd Dawson, Dulyn, ar ôl caei ei yrru i'r Iwerddon i gael triniaeth
  • William, bu farw fel y gwelwn yn ystod yr ymosodiad ar dref Badajos yn Sbaen, ac mae wedi ei gladdu mewn ffos y tu allan i'r dref.

Nid oes neb ar ôl o'r teulu yma heddiw.

Meinciau pren

[golygu | golygu cod]

Gwelwn amrywiaeth o feinciau neu lociau pren, gyda enw'r teulu wedi ei nodi arnynt a'r dyddiad. Mae nifer o rai gyda I/ D M 1767 arnynt, dyma feinciau teulu David a Margaret Jones Cefn Coed. Roedd y meinciau syml heb gefn arnynt ar gyfer y morwynion a'r gweision, tra roedd y teulu yn eu lloc drudfawr o dderw lleol. Os edrychwch yn fanwl fe welwch fod un o'r meibion pan oedd tua 10 oed y cyfeirir ato uchod, wedi crafu ei enw ar fainc y teulu "R I 1784" sef Richard Jones I am Iohanes, Jones yn Lladin.

Gwelwn un lloc gyda enw Fron arni. Dyma dy agweddi i deulu Cefn Coed, Yn ddiweddarach hwn oedd cartref "Ieuan Gwyllt".

Ym mhen pellaf y capel deheuol, gwelwn loc gyda H / W A 1808 arni, dyma'r un ieuengaf yn yr eglwys, yn perthyn i deulu Humphreys Plas Llanfaglan. Roedd y rhain yn deulu eithaf dylanwadol yn y gymuned. Dyma'r unig loc i newid o gynllun 1788 o'r eglwys, ac mae yn ymddangos eu bod nhw wedi rhoi dwy ochr newydd i'r loc yma, gan yn 1788 roedd y drws wedi ei osod ar draws y gornel adeg hynny. Hon gyda llawr pren iddi. Dyma gliw i'r gwaith o adnewyddu'r eglwys yn y cyfnod yma, gwelwch uchod.

Ar ochr dde yr allor, mae mainc hen arall, os dynnwch hon allan yn ofalus, fe welwch enw Glanrafon ar y cefn. Mainc wedi ei ail ddefnyddio a'i chefn wedi ei droi rownd i guddio'r enw Glanrafon, mwy na thebyg fod y teulu wedi marw a rhywun arall wedi cymryd defnydd o'r fainc.

Gwelan Enw I.G. 1737 ar rhai meinciau, ni wyddwn yn union pwy oedd John Gryffudd (o bosib) , ond fe roedd yna glochydd or' enw yma ar un adeg. Roedd yna dyddyn bychan yn Llanfaglan, o'r enw Tyddyn Clochydd a oedd rhwng y gwaith carthffosiaeth heddiw a Phen Rhos heddiw. sy'n adfail heddiw.

Sant Baglan

[golygu | golygu cod]

Ceir dau Sant Baglan yng Nghymru, sef Baglan ap Dingad a Baglan ap Ithel Hael. Baglan ap Dingad yw'r sant yma yn Llanfaglan. Honir ei fod yn ddisgynnydd o Macsen Wledig. Roedd ar ar bererindod o Lancarfan ym Mro Morgannwg heddiw, i Ynys Enlli, gyda Dyfrig, ac fe sefydlodd ei gell yma yn Llanfaglan. Beth welodd yma, chawn byth wybod. Yn Llyfr Coch Hergest gwelwn gofnod ganddo " 'Ffordd y Llanfaglan yd eir y nef' " Un esboniad i hyn oedd ei bod hi'n anodd cyrraedd Llanfaglan adeg hynny. Fe oedd angen croesi dwy afon sef Y Saint a'r Gwyrfai i ddod i'r safle, ac angen croesi tir gwlyb yn yr ardal.

Y Fynwent

[golygu | golygu cod]

Dyma hanes y tu ôl i ambell fedd a rhai sydd wedi eu claddu yma.

  • David Pritchard neu Dafydd 'Rabar. Gwr yn rhedeg y fferi ar draws Aber yr Afon Saint yng Nghaernarfon cyn i' bont cael ei chodi dros yr Aber yn 1900. Mae ei fedd i'r ochr orllewinol i'r eglwys, llechen fawr ar lawr.
  • Cyn deidiau un o ffotograffwyr mawr y byd Philip Jones Griffiths, gwelwch fedd Teulu Cae Glas Llanwnda i'r de o'r eglwys.[1] Gwelwch ei lyfr Vietnam Inc. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio un o'i luniau mwyaf, o ryfel erchyll Fietnam, sef y ferch fach yn rhedeg i lawr y ffordd wedi ei llosgi, a dim dilledyn amdani.
  • Megan Bonner Pritchard, y ferch gyntaf i fod yn faer tref Caernarfon.
  • Susannah Jones Cefn Coed, gwraig Richard Jones, gwraig a fu'n hael iawn gyda'r eglwys. Bedd wen sylweddol i'r gogledd o'r porth (drws yr Eglwys) i'r dde. Mae'r garreg fedd yn nodi ei dau ŵr.

Tystiolaeth o barchuso enwau lleoedd

[golygu | golygu cod]

Yn y fynwent gwelwn fedd gyda enw fferm Bronydd arni. Mae hon wedi ei lleoli wrth wal ddwyreiniol yr eglwys Mae Bronydd ger Canolfan Arddio Fron Goch. Sylwch fod yr enw wedi ei naddu yn ddyfnach i'r lechen na gweddill yr ysgrifen. Dyma pam, ar fap 1901 yr A.O., gwelwn enw Cae Cock, ac erbyn map 1919, mae'r enw wedi newid i Bronydd. Ar y mapiau gwelwn fod y fferm drws nesaf wedi newid enw hefyd, o Cocksidlia i Muriau. Y rheswm dros hyn oedd diwygiad crefyddol mawr 1904 - 1905, ble aeth pobl ati i barchuso enwau lleoedd. Diwygiad 1904–1905

Bedd "môr-leidr"

[golygu | golygu cod]

Maen nhw yn dweud fod yna fedd môr-leidr yn y fynwent, gallwch ei gweld o dan y ffenestr ddwyreiniol. Nid oes enw arni dim ond penglog a chroes esgyrn. Memento mori arwydd o farwolaeth yw hwn. Fe oedd hon yn gorwedd ar wal yr eglwys am gyfnod.

Porth y fynwent

[golygu | golygu cod]

Dyma'r adeilad cyntaf rydych yn mynd heibio iddo i fynd i fewn i'r safle. Sylwch ar y garreg sydd yn nodi enw'r wardeiniaid yn 1722. Dyma pryd y codwyd hwn. Gallwch eistedd i mewn yn hwn, ond hefyd sylwch ar y graffiti wedi eu naddu ar y drws. Mae'r drws wedi ei gloi a arbed anifeiliaid fynd i'r fynwent a chreu llanast.

Estyniad i'r fynwent

[golygu | golygu cod]

Ar ochr chwith i'r giât fawr sydd yn eich arwain i'r fynwent, sylwch ar y garreg yn y wal. Mae hon yn nodi - " Rhoddwyd chwarter erw hon o dir gan yr Anrhydeddus Frederick George Wynne Glynllifon at helaethu'r fynwent 1930"

Sylwch ymhle mae yna ostyngiad yn y tir ym mhen pellaf y fynwent wrth edrych o'r giât, dyma ffin dwyreiniol y fynwent wreiddiol, ac hefyd rhan o ffin y lloc o'r oes haearn.

Englynion yn y fynwent

[golygu | golygu cod]

Mae'r rhifau o gofnodion y fynwent gan Gymdeithas Hanes Teulu Gwynedd a gyhoeddwyd yn nechrau'r 1980au.

Bedd A012: Hen Eglwys Llanfaglan Henry mab Roger Rogers Maes Elen Llanfaglan

[golygu | golygu cod]

Wele ni wedi pob gwaith – yn ddi lesg
A waned o’r llwch unwaith
Mewn bed doer dyrnfedd un taith
Lle chweli’r ni’n llwch eilwaith.

Bedd A052: Hen Eglwys Llanfaglan Ellen Hughes, Glan Menai, Llanwnda

[golygu | golygu cod]

Nid yw’r englyn hon yn llyfr CHTG.

Ei chariad oedd ei choron, - a allodd
Gwnaeth o ‘wyllys calon
Mynnai sel cymwynas hon
Lle y’nghanol anghenion.

Bedd 036/7: Dorothy (21 oed 23/09/1863), merch Richard ac Elizabeth Humphreys Plas Llanfaglan

[golygu | golygu cod]

Hi roes esiamplau i’r oesoedd - a ddel
Mewn gwn dda weithredoedd
Anwyl iawn a duwiol oedd
Garedig cywir ydoedd

Bedd Anne Wynne (22 oed 30/10/1856), merch Richard ac Elizabeth Humphreys Plas Llanfaglan

[golygu | golygu cod]

Mewn hedd yn gorwedd; mewn gweryd – dian
Mae’r dawel anwylyd
Uniawn bu yn ei bywyd
Ac yn y bedd gwyn ei byd

Bedd A074: John Jones bu farw  yn 78 oed 2/10/1918 Plas Llanfaglan

[golygu | golygu cod]

Gwr talgryf heinyf hynod – o ddoniau
Diddianus geir isod
Gwnaeth yn hawdd a ddi clawdd glod
Llanfaglan yn fwy hyclod.

Bedd B023: Thomas Jeffrys bu farw 24/02/1895 54 oed

[golygu | golygu cod]

Gwr enwog mewn gwir rinwedd – un gonest
Oganai bob gwagedd
Chwi wr myfyriwr gwir fawredd
Diameu a fu; dyma’i fedd
R.R.Morris

Annie hawdgaraf hunodd, - yn gynnar
Yn y Gannan glaniodd;
I’r bywyd draw o’r byd hi drodd,
Yn Iesu y gorphwysodd.

Bedd Ellen Williams 21/2/1901 30 oed o Gate House Hendy

[golygu | golygu cod]

(Y Gate house oedd tŷ’r “crossing” rheilffordd.)

Angau a’i boenau ingol, - a wana i
Ye enwth wen siriol
Yrrai’r blodyn gwyn i’w gol
A ddygodd yn fuddugol

Rhan newydd o’r fynwent

[golygu | golygu cod]

Bedd Elisabeth Morfudd Williams a’i rhieni

[golygu | golygu cod]

Y bardd oedd Y Prifardd Emrys Edwards a enilliodd y gadair yn eisteddfod  Rhosllannerchrugog yn 1961 "Awdl Foliant i Gymru", bu'n cyd weithio yn ysgol ramadeg Caernarfon gyda Morfudd Williams. Roedd plant yr ysgol yn yr angladd ac mae sôn bod yna lond tri bws ohonynt.

I blant, a’u byw helyntion – beunyddiol
Bu’n addfwyn a thirion,
Fu rhyfedd hynawsedd hon

Di-son ei drud wasanaeth – o gariad
Rhoes ef y gorau’n helaeth
Un fwyn oedd, a chofio wnaeth
Degwch eigalwediagaeth.
Emrys Edwards

Bedd John Jones Tan y Graig Llanfaglan 14/4/1951 80 oed

[golygu | golygu cod]

Gŵr da ymroddgar, diwyd- a garodd
Bopeth gorau deufyd;
Ar fôr oes ddifrif fryd
Y llyw fu i’w holl fywyd
G.

Bedd Ella Edwards Gwynfryn Gynt o Cefnynysoedd 86 oed 1973

[golygu | golygu cod]

Mwynesir ei chymwynasau – yn hir
Ar ei hôl gan ffrindiau;
O nos ei chur i’r bur bau
Iôr a’i galwodd i’r golau.
Glan Rhyddallt

Bedd Henry Owen Thomas Plas Llanfaglan 17/3/1981 62 oed

[golygu | golygu cod]

Mae olion ei hwsmoniaeth yn aros
Yn erwau’i ofalaeth;
O’i ôl yn hir, gadael wnaeth
Gwysi union wasanaeth

Cyfeillion Eglwysi Digyfaill

[golygu | golygu cod]

Heddiw, mae'r eglwys dan ofal yr elusen y Cyfeillion Eglwysi Digyfaill / Friends of Friendless Churches, Cychwynnwyd yr elusen gan Gymro Ivor Bulmer-Thomas, aelod seneddol Pen y Bont a'r Ogwr ar y pryd yn 1957. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn ystafell 13 yn y Ty'r Cyffredin yn Llundain gyda gwleidyddion a phobl dylanwadol yn bresennol. Heddiw gan y cyfeillion 54 o eglwysi dan eu gofal yng Nghymru a Lloegr (Mehefin 2020), gyda 27 yng Nghymru a 27 yn Lloegr. Mae yna wirfoddolwyr lleol yn gofalu am yr eglwysi hyn, ac pan fydd angen gwaith cynnal a chadw, pobl leol sydd yn cael y gwaith. Mwy o wybodaeth ar eu gwfan [2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Biography". Philip Jones Griffiths. Cyrchwyd 26 Hydref 2021.
  2. "Llanfaglan St Baglan". Friends of Friendless Churches (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-07-21. Cyrchwyd 26 Hydref 2021.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]