Elfodd
Elfodd | |
---|---|
Ganwyd | 8 g |
Bu farw | 809 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Clerigwr o Wynedd oedd Elfodd (m. 809). Ffurf arall ar ei enw yw Elfoddw (Lladin Elbodug). Roedd yr hanesydd Cymreig cynnar Nennius yn ei edmygu.[1] Mae'n bosibl ei fod yn aelod o'r clas (mynachlog gynnar) yng Nghaergybi.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad cafodd ei urddo'n Esgob Bangor yn 755, ond mae haneswyr yn amheus am ddilysrwydd hynny. Mae'r enw 'archiescopus Guenedotae' yn amwys hefyd. Serch hynny mae'n bur debyg y medrwn ei gyfri fel un o esgobion cynnar Bangor gan fod tir yr esgobaeth honno'n cyfateb i diriogaeth teyrnas Gwynedd fwy neu lai. Caradog ap Meirion (730? - 798?) oedd brenin Gwynedd yn amser Elfodd.[2]
Rhoes Elfodd arweiniad pwysig i'r eglwys gynnar yng Nghymru, a oedd yr olaf o'r Eglwysi Celtaidd i glymu wrth yr hen system o ddyddio'r Pasg, trwy fabwysiadu'r dull Rhufeinig o wneud hynny.[2] Digwyddodd hynny yn 768 yn ôl yr Annales Cambriae.[1]
Roedd Nennius yn galw ei hun yn ddisgybl i Elfodd - "Ego Nennius Elvodugi disciplus" - ac yn cyfeirio ato fel 'y mwyaf sanctaidd o'r esgobion oll'.[1]
Ceir cyfeiriaid at ei farwolaeth yn yr Annales Cambriae:
- 'Elbodug archiescopus Guenedotae regione migravit ad Dominum' (Bu farw - yn llythrennol 'aeth at Dduw' - Elfodd, archesgob rhanbarth Gwynedd)[1]