Esgyryn
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2936°N 3.7908°W |
Cod OS | SH807789 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Pentref bychan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Esgyryn[1][2] (amrywiad: Esgyrn). Fe'i lleolir yn ardal y Creuddyn ar gyrion gogleddol Cyffordd Llandudno.
Bu cymuned fechan yn Esgyryn ers canrifoedd. I'r gogledd-orllewin ceir allt goediog a'r tir yn perthyn i ystad Bodysgallen. I'r gogledd-ddwyrain o'r pentref ceir pentref bychan Pydew (Bryn Pydew).
Nodwedd amlycaf Esgyryn heddiw yw'r obelisg trawiadol a godwyd gan unigolyn.
Yr Obelisg ar Allt Ffrith
[golygu | golygu cod]Cyfeirnod Map -SH80507 78924 N 53° 17.622 W 003° 47.654
Mae'r obelisg i'w weld wrth deithio oddi ar yr A55 o'r Gath Ddu i gyfeiriad Llandudno (ar yr A470); saif ar Allt Ffrith, Bryn Esgyryn, ger Cyffordd Llandudno. Fe'i codwyd yn 1993 gan Richard Broyd, perchennog Bodysgallen ar y pryd, er gwaethaf llawer o wrthwynebiad lleol ac yn groes i ddeddfau cynllunio. Mae'n 64 troedfedd o uchder ac ar ffurf tebyg i Nodwydd Cleopatra. Dynodwyd y tir o gwmpas yr obelisg yn fan o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac mae'n rhyfeddol bod cymaint o wahanol flodau gwyllt a phlanhigion yn ffynnu yno er gwaethaf yr holl wningod sydd o gwmpas.
Blodau a phlanhigion
[golygu | golygu cod]Misoedd Mai a Mehefin yw'r adeg gorau i weld y carpedi lliwgar o flodau.
Briallu Mair
[golygu | golygu cod]Yn ystod mis Mai mae yna fôr o Friallu Mair ar y llethrau. Tynnwyd y llun ar Fai 13, 2015,yn wynebu i gyfeiriad Llandudno ac fe welir Pen y Gogarth yn y cefndir.
Planhigyn bach lluosflwydd gyda blodau persawrus melyn yw Briallen Fair Sawrus (Saesneg: Cowslip). Mae'n perthyn i deulu'r friallen a elwir yn Lladin yn Primula veris. Enwau eraill: Allweddau Pedr, Briallu Mair Sawrus, Briallu Dwbl, Dagrau Mair, Llysiau'r Parlys, Teth y Fuwch, Sawdl y Fuwch, Troed y Fuwch, Tafod yr Ych, Sgemran yr Ych, Symylen, Shwmbwls, Tewbanog Fechan. Rhinweddau meddygol: Dywedir bod rhoi poltis ohono ar yr arlais yn beth da at ddiffyg cwsg.
Seren y Gwanwyn
[golygu | golygu cod]Golygfa a dynnwyd o'r Obelisg gan edrych dros Cyffordd Llandudno a Llansanffraid (Glan Conwy) gydag Afon Conwy yn llifo i gyfeiriad y môr. Pen Llithrig y Wrach yw'r pig sydd yn y cefndir. Mae'n blanhigyn sy'n gynhenid i Orllewin Ewrop gyda blodau bychain o siap seren. Fel arfer mae ei faint yn amrywio o bump i bymtheg centimedr gyda dwy o'r saith deilen yn codi o waelod y planhigyn. Does dim arogl ar y blodyn sydd â chwech o sepalau o liw fioled-glas. Gwelir ran amlaf yn agos i'r môr ble mae yna wair byr sych yn tyfu. Dyma’r enwau Cymraeg: Seren y gwanwyneb, Seren y Gwanwyn, Serennyn, Serennyn y Gwanwyn a Wynwyn y Môr. Yr enw Saesneg yw ‘spring squill’ a’r enw Lladin – ‘Scilla verna’.
Troed y golomen
[golygu | golygu cod]Tynnwyd y llun ar 8 Mehefin 2015 ac erbyn hynny roedd y rhan helaethaf o Friallu Mair wedi gwywo. Mae cipolwg o'r Fardre yn y pellter a Phenmaenmawr a Phenmaenbach
Llysieuyn blodeol bychan yw Troed y golomen sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Ranunculaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Aquilegia vulgaris a'r enw Saesneg yw Columbine.] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Blodau'r Sipsi, Blodau Colomennod, Blodau yr Eryr, Bonet Nain, Cap Nos Mamgu, Clychau Llundain, Colwmbein, Madwysg, Madwysg, Troed y Glomen, Cyffredin, Troed y Ceiliog, Troed y Glomen. Mae'r blodau'n gymesur ac yn ddeuryw. Nodwedd arbennig y planhigyn hwn yw bod y sepalau'n lliwgar ac yn edrych yn debyg iawn i betalau. Ceir ychydig lleia erioed o wenwyn o fewn y planhigyn: protoanemonin,sy'n wenwyn i anifail a dyn, alcaloidau neu glycodidau.
Golygfeydd o bwys hanesyddol a welir o'r Obelisg
[golygu | golygu cod]Y Fardre
[golygu | golygu cod]Ar y gorwel mae Sir Fôn ac Ynys Seiriol. O edrych i'r gorllewin fe welwch yn y pellter ddau fryncyn - Y Fardre, oedd o bwys yn hanes Cymru. Hefyd gwelir rhan o Ddeganwy. Yn ôl traddodiad,yma y sefydlodd Cunedda wedi iddo ddod o'r Hen Ogledd i adfer trefn yng Ngogledd Cymru yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Yma hefyd roedd Llys Maelgwn Gwynedd yr honnir iddo gynnal eisteddfod go anghyffredin pan fu'n rhaid i'r beirdd a'r cerddorion orfod nofio ar draws Afon Conwy cyn cystadlu. Roedd y telynau wedi eu difetha yn y dŵr. Yn ôl traddodiad bu farw Maelgwn o'r Fad Felen ar ôl ceisio cael lloches yn Eglwys Llanrhos. Aeth ei gywreinrwydd yn drech nag ef- aeth i sbecian drwy dwll y clo a chafodd ei daro!
Fferm Hendre Wen
[golygu | golygu cod]Mae nifer o ffeithiau diddorol am y fferm yma. Yn hanes 'Damwain Bryn Pydew' yn Hydref 1944, yn y cae ar y dde i'r maes carafanau y disgynnodd dau o'r criw, Millar a Wagstaff, gyda pharasiwt a chael eu hachub gan Richard a Lilian Owen. Yn ddiweddar,daeth i feddiant y perchenogion presennol fap yn dangos enwau'r caeau yn 1919 a'r cyfan yn Gymraeg.
Paentiwyd darlun o'r ffermdy gwreiddiol, Yr Hendre, yn gelfydd, gan Rowena Wyn Jones a enillodd glod mewn arddangosfa ym Mharis. Hi hefyd fu'n gyfrifol am y lluniau yng nghyfres wreiddiol llyfrau darllen Sali Mali.
-
Millar a Wagstaff a achubwyd o ddamwain yr Halifax
-
Map yn dangos enwau caeau Hendre Wen
-
Y ffermdy gwreiddiol - Yr Hendre. Paentiad gan Rowena Wyn Jones cyn iddo gael ei adnewyddu
Codwyd Ysgol Awel y Mynydd ar dir fu'n rhan o Fferm Hendre Wen yn 2017 ar gaeau Cae Maes a Twll Llwynog. Mae'r olygfa yn edrych dros y caeau i gyfeiriad y fferm. Mae'r obelisg yn y cefndir ar y chwith.
Plasdy Gloddaeth a Theulu Mostyn
[golygu | golygu cod]Teulu Mostyn yw'r teulu pwysicaf yn hanes Llandudno ac mae Stad Mostyn yn berchen llawer o dir yno o hyd. Etifeddodd y teulu stad y Gloddaeth trwy briodas yn y 1450au gan adeiladu'r plasdy a welir yn y llun, -ysgol breifat, Coleg St. David sydd yno bellach- yn yr 16g. Ddwy ganrif yn ddiweddarach, yn sgil priodas arall, cafodd Syr Roger Mostyn afael ar stad Bodysgallen. Ar dir y stad honno y codwyd yr obelisg. Roedd Syr Roger Mostyn yn berchen ar lyfrgell o lawysgrifau Cymraeg pwysig. Ŵyr iddo oedd yr Arglwydd Mostyn cyntaf (teitl a grewyd yn 1831) ac erbyn ei farwolaeth yn 1854 roedd Llandudno yn datblygu fel tref ffasiynol. Dan awdurdod Deddf Seneddol 1843, caewyd y tir comin gwastad yng nghysgod y Pen y Gogarth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021
Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r testun yma yn wreiddiol mewn erthygl gan Gareth Pritchard yn Y Pentan, papur bro Dyffryn Conwy a'r Glannau.
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan