Etholiad cyffredinol
Etholiad lle mae pob aelod (neu'r 'mwyafrif') o unrhyw gorff gwleidyddol i'w ethol yw etholiad cyffredinol. Arferir y term fel rheol i gyfeirio at etholiadau i brif gorff deddfwriaethol cenedl neu wladwriaeth, mewn cyferbyniaeth ag is-etholiadau ac etholiadau lleol.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'r term yn tarddu o system etholiadol y Deyrnas Unedig lle ceir etholiadau cyffredinol i ethol Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan, ond fe'i defnyddir i gyfeiro at etholiadau tebyg mewn sawl gwlad arall bellach.[1]
Gwledydd Prydain
[golygu | golygu cod]Yma, mae'r term fel arfer yn cyfeirio at etholiad cenedlaethol ym mhob etholaeth seneddol ar yr un diwrnod Aelodau Seneddol, lle etholir hwy i San Steffan. Ni ddefnyddir y term i gyfeirio at etholiadau i Gynulliad Cymru, ond mae Adran 2 o Ddeddfwriaeth yr Alban, 1998, yn ei ddefnyddio yngh nghyd-destun ethol aelodau i Senedd yr Alban.[2]
Yng ngwledydd Prydain rhaid cynnal etholiad cyffredinol o fewn pum mlynedd ac un mis o ennill grym, yn unol â deddf Fixed-term Parliaments Act 2011. Ceir eithriad i hyn pan fo'r Tŷ'r Cyffredin yn pasio pleidlais o ddiffyg ffydd yn y Llywodraeth cyn hynny, neu os yw dau draean (2/3) o aelodau'r Tŷ yn pleidleisio dros ei gynnal ynghynt. Yn ystod y ddau Ryfel Byd, newidiwyd y tymor e.e. gohiriwyd Etholiad Cyffredinol 1910 i Dachwedd 1918 ac felly hefyd gyda Etholiad Cyffredinol a fwriadwyd ei gynnal yn Nhachwedd 1935, ac a ohiriwyd tan Mehefin 1945. Mae gan Dŷ'r Arglwyddi feto ar y gohirio, fodd bynnag.
Yn wreiddiol, roedd y broses o ethol yn cymrys sawl wythnos, ac nid un diwrnod. Cynhaliwyd y bleidlais ar ddiwrnodau gwahanol mewn etholaethau gwahanol. Yn 1911 newidiwyd hynny gan ddeddfwriaeth. Ers 1931 cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol ar Ddydd Iau, ond nid yw hynny'n angenrheidiol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Diffiniad o 'etholioad' yng Ngeiriadur y Brifysgol yw: 'Y weithred o ethol, dewisiad; dewisiad i swydd drwy bleidlais, yn enw. aelodau corff cynrychioliadol (e.e. y senedd, y cyngor sir), lecsiwn; yr holl drefniant ynglŷn â’r cyfryw ddewisiad.'
- ↑ Scotland Act 1998 (c. 46) - 2. Ordinary general elections