Ffraethebwyr y Prifysgolion
Llên Lloegr yn yr 16eg ganrif |
---|
Sonedwyr a thelynegwyr yn Oes Harri |
Y Diwygiad Seisnig |
Barddoniaeth yn Oes Elisabeth |
Y ddrama yn Oes Elisabeth |
Enw ar grŵp o awduron sydd yn neilltuol gyfrifol am dwf cyflym y ddrama Elisabethaidd fel ffurf lenyddol flaenaf Lloegr yn ystod ugain mlynedd ola'r 16g yw Ffraethebwyr y Prifysgolion. Bathwyd yr enw University Wits gan y beirniad George Saintsbury yn y 19g i ddisgrifio'r criw hwn o ddramodwyr, rhyddieithwyr, a phamffledwyr Elisabethaidd gan fod nifer ohonynt yn gyn-fyfyrwyr prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.[1] Maent yn cynnwys John Lyly, Thomas Lodge, a George Peele o Rydychen, a Christopher Marlowe, Robert Greene, a Thomas Nashe o Gaergrawnt.
Ymhlith dramâu nodweddiadol y Ffraethebwyr mae Friar Bacon and Friar Bungay (1589) gan Greene a The Old Wives' Tale (1595) gan Peele. Mae'r rhain yn nodi troad arloesol oddi ar yr hen anterliwt a'r ddrama gronicl Duduraidd, gan ysgogi oes newydd o amrywiaeth a safon yn myd theatr Lloegr.[2] O ran ei defnydd o drais a themâu gwallgofrwydd a dial, mae The Spanish Tragedy (1592) gan Thomas Kyd—a ystyrir yn aml yn un o'r Ffraethebwyr, er na aeth i'r brifysgol—yn rhagflaenu'r drasiedi Iagoaidd.
Maent hefyd yn nodedig am eu rhyddiaith, gan gynnwys y rhamantau Euphues: The Anatomy of Wit (1578) ac Euphues and His England (1580) gan Lyly a'r stori bicarésg The Unfortunate Traveller (1594) gan Nashe.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 1027.
- ↑ (Saesneg) University wits. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Hydref 2022.