Frank Lloyd Wright
Frank Lloyd Wright | |
---|---|
Ganwyd | Franklin Lincoln Wright 8 Mehefin 1867 Canolfan Richland |
Bu farw | 9 Ebrill 1959 Phoenix |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynlluniwr trefol, llenor, cynllunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Emil Bach House, Pettit Memorial Chapel, Annunciation Greek Orthodox Church, A. D. German Warehouse, Fallingwater, Prairie School architecture, Solomon R. Guggenheim Museum |
Tad | William Carey Wright |
Mam | Anna Lloyd Jones Wright |
Priod | Olgivanna Lloyd Wright, Catherine Tobin Wright, Miriam Noel Wright |
Partner | Mamah Borthwick |
Plant | John Lloyd Wright, Lloyd Wright, Iovanna Lloyd Wright, Catherine Dorothy Wright |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, Medal Frank P. Brown |
llofnod | |
Pensaer Americanaidd oedd Frank Lloyd Wright (8 Mehefin 1867 – 9 Ebrill 1959).[1]
Americanwr o Wisconsin ydoedd, ond gŵr a'i wreiddiau'n ddwfn yng Nghymru. Bu'n bensaer dros 500 o brosiectau gorffenedig, yn awdur dros 20 o lyfrau pensaernïol a chynllunydd dodrefn mwyaf yr 20g. Yn 1991 fe gyhoeddodd Cymdeithas Penseiri America mai ef oedd "the greatest American architect of all time".[2]
Ar ôl dod yn bensaer galwodd nifer o'i adeiladau yn "Taliesin" (yn ogystal â'i gartref ei hun).[3][4]
O'r cartref cyntaf gafodd ei gynllunio ganddo hyd at ei farwolaeth, creodd syniadau chwyldroadol megis pensaernïaeth organig (chwedl Fallingwater), a oedd yn pwysleisio y dylai'r adeilad ffitio i mewn yn naturiol i'r ardal mae ynddo. Creodd fathau gwahanol o eglwysi, swyddfeydd, ysgolion, gwestai ayb - yn ogystal â thu fewn i'r adeiladau hyn: y dodrefn a'r ffenestri er enghraifft. Sgwennodd dros ugain o lyfrau'n ymwneud â phensaernïaeth yn ystod ei oes ac roedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn drwy America ac Ewrop. Roedd yn berson lliwgar hefyd ac roedd ei fywyd yn llenwi papurau'r oes: methiant dwy briodas a'r tân erchyll a gynnwyd yn fwriadol yn 1914 gan ddifrodi'r Taliesin Studio - a lladd 7 o bobl.
Defnyddiodd gynllun agored yn aml, sy'n dangos ei fod yn ymateb i'r newidiadau cymdeithasol yn America; roedd y gegin er enghraifft yn aml bron yn un a'r ystafell fwyta - er mwyn i'r wraig gadw llygad ar y plant neu'r ymwelwyr tra'n coginio. Cafodd ei ddynwared gan lawer o bensaeri a'i ddilynodd - ac yn eu plith mae Mies van der Rohe. Ef oedd arweinydd y symudiad a elwir y 'Prairie School movement of architecture' (gyda Robie House a Westcott House yn esiamplau clasurol), a datblygodd y syniad o'r cartref Usonaidd ('Usonian') (gweler ei Rosenbaum House).
Y Dyddiau Cynnar
[golygu | golygu cod]Ar Ragfyr y 7ed 1844, glaniodd The Remittance yn Efrog Newydd gyda theulu o Rydowen ger Llandysul, De Cymru ar fwrdd llong: Richard a Mary (neu Mali) Lloyd-Jones a saith o blant. Un o'r plant oedd Anna. Roeddent yn gwbwl uniaith Gymraeg pan laniodd y cwch, yn ôl Jane, chwaer Anna.[5] Motto'r teulu oedd 'Y Gwir yn Erbyn y Byd', sef un o ddywediadau Iolo Morganwg. Diddorol yw nodi fod gan Iolo fab o'r enw Taliesin.
Mewn lle o'r enw Ixonia, yn anialwch Wisconsin y cartrefodd y teulu yn gyntaf, ond fe symudo nhw i ddyffryn ger Spring Green, Wisconsin yn y 1860au. Rhwng 1887 a 1917 datblygodd dwy o'i chwiorydd, sef Jane ac Ellen, ysgol flaenllaw yn y cwm (a adnabyddid fel 'Dyffryn y Jonsiaid!); Hillside Home School; athrawes hefyd oedd Anna (Anna Lloyd Jones (1838/39 – 1923). Priododd a William Carey Wright (1825 – 1904) a chawsant blentyn o'r enw Frank Lincoln Wright ar yr 8ed o Fehefin, 1867. Yn 1881 gwahanodd y rhieni a newidiodd Frank ei enw i hen enw teulu ei fam: Lloyd. Mae dylanwad ei fam i'w weld yn gryf iawn ar Frank Lloyd Wright.
Rhoddodd Anna ei fam luniau eglwysi cadeiriol ar waliau ystafell wely ei phlentyn pan oedd yn blentyn a phrynodd flociau iddo adeiladu modelau bychan. Mae'n amlwg iddi adrodd storiau o'r Mabinogi iddo hefyd, gyda chwedl Taliesin ymhlith ei ffefrynnau.
Adeiladau enwog gan Frank Lloyd Wright
[golygu | golygu cod]- Cartref Frank Lloyd Wright, Oak Park, Illinois, 1889
- Byngalo Louis Sullivan, Ocean Springs, Mississippi, 1890 (wedi dinistrio gan gorwynt yn 2005)
- Tŷ James Charnley, Chicago, Illinois, 1891
- Taliesin I, Spring Green, Wisconsin, 1911
- Tŷ Emil Bach, Chicago, Illinois, 1915
- Fallingwater, Stewart Township, Pennsylvania, 1935
- Tŷ Herbert F. Johnson ("Wingspread"), Wind Point, Wisconsin, 1937
- Taliesin West, Scottsdale, Arizona, 1937
- Tŵr Price, Bartlesville, Oklahoma, 1956
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Frank Lloyd Wright Dies; Famed Architect Was 89". The New York Times (yn Saesneg). 10 Ebrill 1959. Cyrchwyd 17 Ebrill 2022.
- ↑ http://www.businessweek.com/bwdaily/dnflash/jul2004/nf20040728_3153_db078.htm
- ↑ Taliesin o wefan Sefydliad Frank Lloyd Wright
- ↑ "Taliesin ar wefan Taliesin Preservation Inc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-29. Cyrchwyd 2010-03-01.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-12-28. Cyrchwyd 2008-07-12.