Gardd RHS Hyde Hall
Gwedd
Math | gardd fotaneg, gardd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rettendon |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.6661°N 0.5758°E |
Rheolir gan | Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol |
Gardd yn Essex, Dwyrain Lloegr, yw Gardd RHS Hyde Hall a reolir gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Fe'i lleolir tua 1.5 milltir (2 km) i'r gogledd-ddwyrain o bentref Rettendon, sy'n tua 5 milltir (8 km) i'r de o ddinas Chelmsford. Dyma un o bum gardd sy'n perthyn i'r gymdeithas. Wisley, Harlow Carr, Rosemoor a Bridgewater yw'r lleill.
Crëwyd y safle 360 erw o dir fferm ym 1955. Fe'i rhoddwyd i'r RHS yn 1993. Mae’n cynnwys amrywiaeth o arddulliau garddio, yn ogystal â chanolfan ymwelwyr a llyfrgell gyfeiriadurol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "History of Hyde Hall", Gwefan RHS; adalwyd 22 Medi 2022