Genicratiaeth
Genicratiaeth (Saesneg: Geniocracy) yw ffurf o lywodraeth, sy'n hyrwyddo deallusrwydd fel maen prawf ar gyfer ethol llywodraeth.
Daw'r term o'r gair Genius (athrylith) ac mae'n cynnig system sydd wedi'i chynllunio i ddewis llywodraeth ar sail gwybodaeth a thosturi fel y prif ffactorau. Cysyniad cefnogwyr y system yw bod democratiaeth yn methu oherwydd bod gormod o bleidleiswyr, sydd a'r hawl i bleidlais gyffredinol, yn rhy dwp i allu gwneud penderfyniadau deallus er mwyn datrys problemau gwleidyddol.
Yn ôl Claude Vorilhon, un o ladmeryddion y cysyniad hwn, dylai ymgeiswyr seneddol fod a gallu sy'n 50% yn uwch na'r cymedr deallusol cyffredin, gyda'r etholfraint yn cael ei gyfyngu i'r sawl sydd â chymedr deallusol cyffredin sydd 10% yn uwch na chyfartaledd deallusol y boblogaeth yn gyffredinol.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Wladwriaeth Plato
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geniocracy: Government of the people, for the people, by the Geniuses Claude Vorhilon (llysenw Real) [1] Archifwyd 2017-12-06 yn y Peiriant Wayback