Gerontius
Gerontius | |
---|---|
Ganwyd | 4 g |
Bu farw | 411 o gwaediad Sbaen |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | person milwrol |
Plant | Maximus of Hispania |
Cadfridog Rhufeinig yng ngwasanaeth yr ymerawdwr Cystennin III (407 - 411 oedd Gerontius (bu farw 411).
Gyrrodd Cystennin ef o Brydain i Gâl gyda Edobich yn 407, i wrthwynebu Sarus, dirprwy'r cadfridog Stilicho. Llwyddasant i orfodi Sarus i encilio i'r Eidal, gan adael Gâl ym meddiant Cystennon. Gyrrodd Cystennin Gerontius i Sbaen i ymladd yn erbyn rhai o deulu'r ymerawdwr Honorius. Gorchfygodd Gerontius hwy, ond yma gwrthryfelodd yn erbyn Cystennin. Yn 411, gorchfygodd Cystennin mewn brwydr ger Vienne. Gwarchaeodd Gerontius arno yn Arles, ond yn ystod y gwarchae, cyrhaeddodd byddin dan Constantius III, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach. Gorfodwyd Gerontius i ffoi, a lladdodd ei hun yn Sbaen yn ddiweddarach.
Cyfansoddodd Edward Elgar yr oratorium The Dream of Gerontius.