Gorchymyn prynu gorfodol
Gwedd
Gweithred gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig a hefyd yng Ngweriniaeth Iwerddon yw Gorchymyn prynu gorfodol (Saesneg: Compulsory purchase order). Mae'n Ddeddf Breifat sy'n caniatau cyrff penodol sydd angen cael meddiant ar dir neu eiddo i wneud hynny heb gydsyniad y perchennog. Un enghraifft o hynny yw prynu tir ar gyfer priffordd pan fo'r perchennog yn gwrthod ei werthu. Gall gael ei defnyddio gan y llywodraeth ei hun, neu un o'i adrannau, neu gan gyngor lleol, er enghraifft ar gyfer datblygu canolfan siopa.