Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Gresffordd

Oddi ar Wicipedia
Gresffordd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,010, 4,947 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd909.75 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.087°N 2.966°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000895 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ353549 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruLesley Griffiths (Llafur)
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Gresffordd[1] (Saesneg: Gresford).[2] Yn y Cyfrifiad 2011, roedd gan y gymuned boblogaeth o 5,010 (2011),[3] 4,947 (2021)[4].

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[5][6]

Trychineb Glofa Gresffordd

[golygu | golygu cod]

Ar 22 Medi 1934, collodd 266 o bobl eu bywydau mewn trychineb yn y lofa leol. Roedd y danchwa hon yn un o drychinebau pyllau glo mwyaf erchyll yn hanes gwledydd Prydain, os nad Ewrop. Digwyddodd y drychineb yn ystod y sifft nos, pan oedd tua 500 o lowyr yn gweithio dan y ddaear, llawer ohonynt yn gweithio sifftiau dwbl. Hyd heddiw, does neb yn gwybod beth achosodd y ffrwydrad nwy a laddodd cymaint ohonynt. Bu'n rhaid cau'r lofa lle digwyddodd y drychineb am gryn amser rhag ofn y digwyddai ffrwydriadau eraill ac o ganlyniad bu raid gadael 254 o gyrff yn y pwll.

Eglwys yr Holl Saint

[golygu | golygu cod]

Mae clychau Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gresffordd (pob oed) (5,010)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gresffordd) (506)
  
10.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gresffordd) (2719)
  
54.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Gresffordd) (771)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  3. https://www.nomisweb.co.uk/reports/localarea?compare=W04000895.
  4. "Parish Profiles". dyddiad cyrchiad: 5 Awst 2024. cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. cyhoeddwyd fel rhan o'r canlynol: Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
  5. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]