Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Gwahaniaethu

Oddi ar Wicipedia

Gwahaniaethu yw trin rhywun yn wahanol neu'n annheg gan eu bod yn perthyn i grŵp penodol. Mae'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn cadarnhau bod rhaid diogelu pob unigolyn rhag unrhyw fath o wahaniaethu.

Gall rhywun wahaniaethu yn erbyn unigolyn ar sail eu hil, eu hoedran, eu rhyw, eu rhywedd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hanabledd, eu crefydd, eu gwleidyddiaeth, y ffordd maen nhw'n edrych, cofnod troseddol blaenorol, eu dosbarth cymdeithasol, a phob math o resymau eraill.