Gwyddor ymddygiad
Gwedd
Astudiaeth unigolion a'u rhyngweithiadau yw gwyddor ymddygiad. Gan amlaf mae'n ymwneud ag ymddygiad bodau dynol, ond gall hefyd ymhel ag astudiaethau anifeiliaid. Maes rhyngddisgyblaethol ydyw sydd yn cyfuno gwyddorau cymdeithas megis seicoleg, anthropoleg, cymdeithaseg, ac economeg ag arbenigeddau ffisiolegol, yn bennaf niwrowyddoniaeth.