Gwyn blaen oren
Anthocharis cardamines | |
---|---|
Gwryw, Wytham, Rhydychen | |
Benyw, Rosenfeld, yr Almaen | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Rhaniad: | Rhopalocera |
Teulu: | Pieridae |
Llwyth: | Anthocharini |
Genws: | Anthocharis |
Rhywogaeth: | A. cardamines |
Enw deuenwol | |
Anthocharis cardamines (Linnaeus, 10fed cyfrol: Systema Naturae, 1758) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn blaen oren, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion blaen oren; yr enw Saesneg yw Orange-tip, a'r enw gwyddonol yw Anthocharis cardamines.[1][2] Boneddiges y wig yw enw arall arno.
Cafodd ei enw oherwydd y lliw oren llachar ar flaen adain yr oedolyn gwrywaidd. Mae i'w weld ledled Ewrop, Asia a Japan. Mae'r glöyn hwn ar gynnydd yn Iwerddon ac yn yr Alban, fwy na thebyg oherwydd cynhesu byd-eang.
Cylch bywyd
[golygu | golygu cod]-
Anthocharis cardamines ♂
-
Anthocharis cardamines ♂ △
-
Anthocharis cardamines ♀
-
Anthocharis cardamines ♀ △
-
Imago neu oedolyn: Benyw
-
Ŵy
-
Larfa (neu siani flewog)
-
Pwpa (chwiler neu sach risial)
Caiff yr wyau eu dodwy ar gefn dail teuluoedd y planhigyn Cardamine pratensis a mwstad (Alliaria petiolata). Hoff fwyd yr oedolyn ydy Hesperis matronalis. Mae'r wyau'n wyn am ychydig ddyddiau cyn troi'r oren ac yna'n tywyllu ychydig cyn deor. Mae bwyd y siani flewog yn gyfyngedig iawn i flodyn y blodau uchod, a dim ond un siani mae pob planhigyn yn medru ei chynnal. Os oes dau siani flewog yn deor, mae un yn bwyta'r llall; felly hefyd gyda'r wyau. Er mwyn atal hyn rhag digwydd, ar ôl dodwy, mae'r oedolyn yn chwistrellu fferomon ar y planhigyn, sy'n arwydd i oedolyn arall i gadw draw.
Mae'r siani'n troi'n chwiler ar ddechrau'r haf, ac yn ymddangos fel oedolyn y gwanwyn dilynol. Ar adegau, gall beidio ymddangos am gyfnod o ddwy neu dair blynedd - sy'n fodd i oroesi gaeafau caled.
Cynefin
[golygu | golygu cod]Caeau ac ymylon coedwigoedd tamp, glan yr afon, ffosydd, rhostiroedd, ymylon rheilffyrdd a llwybrau.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn blaen oren yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.