Harold Lloyd
Harold Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | Harold Clayton Lloyd 20 Ebrill 1893 Burchard |
Bu farw | 8 Mawrth 1971 o canser y brostad Beverly Hills |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, ffotograffydd, perfformiwr stỳnt, digrifwr, cynhyrchydd gweithredol, llenor, arlunydd, cynhyrchydd, cyfarwyddwr |
Blodeuodd | 1900 |
Arddull | ffilm gomedi, ffilm fud, ffilm antur, ffilm ddrama, ffilm annibynnol, ffilm llawn cyffro, ffilm chwaraeon, ffilm gyffro, y Gorllewin gwyllt, ffilm ramantus |
Prif ddylanwad | Charles Chaplin |
Taldra | 178 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Mildred Davis |
Plant | Gloria Lloyd, Harold Lloyd Jr. |
Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.haroldlloyd.com/ |
Cyfarwyddwr, actor a seren ffilm Americanaidd o dras Gymreig oedd Harold Clayton Lloyd (20 Ebrill 1893 – 8 Mawrth 1971). Mae'n fwyaf enwog am ei stynts mewn ffilmiau mud e.e. Safety Last! (1923) ble mae'n hongiad o gloc enfawr.[1][2]
Cafodd ei eni yn Burchard, Nebraska, yn fab i J. Darsie "Foxy" Lloyd. Priododd yr actores Mildred Davis yn 1923.
Actiodd wrth ochr Charlie Chaplin a Buster Keaton, yn un o actorion mwyaf poblogaidd ei gyfnod, ac roedd ei ddylanwad ar ffilmiau mud y cyfnod yn enfawr. Gwnaeth oddeutu 200 o ffilmiau comedi rhwng 1914 a 1947 ac efallai mai'r mwyaf poblogaidd oedd y cymeriad "Glasses" a chwaraeodd,[3][4] cymeriad llwyddiannus, ymarferol a oedd a'i fus ar byls yr Unol Daleithiau yn y 1920au.
Er nad oedd ei ffilmiau mor llwyddiannus a rhai Chaplin yn fasnachol, roedd llawer mwy ohonynt yn dod allan o'i stabl. Ymddangosodd 12 ffilm lawn yn y 1920au, gyda dim ond 4 yn gan Chaplin. Roedd cyfanswm incwm ei ffilmiau hefyd yn uwch: $15.7 miliwn o'i gymharu â $10.5 m o incwm ffilmiau Chaplin.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Grandma's Boy (1922)
- Safety Last! (1923)
- Why Worry? (1923)
- Girl Shy (1924)
- The Freshman (1925)
- The Kid Brother (1927)
- Speedy (1928)
- Welcome Danger (1929)
- Feet First (1930)
- Movie Crazy (1932)
- The Cat's-Paw (1934)
- The Milky Way (1936)
- The Sin of Harold Diddlebock (1947)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Obituary Variety, 10 Mawrth 1971, tud. 55.
- ↑ Slide, Anthony (27 Medi 2002). Silent Players: A Biographical and Autobiographical Study of 100 Silent Film Actors and Actresses. Univ. Press of Kentucky. t. 221. ISBN 978-0813122496.
- ↑ Austerlitz, Saul (2010). Another Fine Mess: A History of American Film Comedy. Chicago Review Press. p. 28. ISBN 1569767637.
- ↑ D’Agostino Lloyd, Annette. "Why Harold Lloyd Is Important". haroldlloyd.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-01. Cyrchwyd November 12, 2013.