Harry Beadles
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 28 Medi 1897 | ||
Man geni | Llanllwchaiarn, Cymru | ||
Dyddiad marw | 29 Awst 1958 (yn 60 ml. oed) | ||
Man lle bu farw | Yr Wyddgrug, Cymru | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1921-1924 | Lerpwl | 17 | (6) |
1924-1925 | Caerdydd | 31 | (14) |
1925-1926 | Sheffield Wednesday | 0 | (0) |
1926–1929 | Southport | 93 | (60) |
1929-1930 | Dundalk | ||
Tîm Cenedlaethol | |||
1925 | Cymru | 2 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd George Harold 'Harry' Beadles (28 Medi 1897 - 29 Awst 1958). Llwyddodd i ennill 2 gap dros Gymru ym 1925[1] ac roedd yn aelod o dîm Dinas Caerdydd chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn yr un flwyddyn[2].
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Llanllwchaiarn, Powys, yn un o saith o blant i Thomas a Sarah Ann Beadles. Gadawodd yr ysgol yn 12 mlwydd oed er mwyn gweithio yn warws Syr Pryce Pryce-Jones yn Y Drenewydd[3]. Roedd Beadles yn chwarae'r cornet gyda Seindorf Arian Y Drenewydd ac ar ddechrau'r Rhyfel Mawr ymunodd â 1/7fed Bataliwn (Meirionnydd a Maldwyn) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel biwglwr, er ei fod o dan oed.[3].
Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Er ei fod wedi ymuno fel biwglwr ac er ei fod yn parhau i fod o dan oed roedd Beadles yn rhan o'r ymosodiad ar Fae Suvla ar 9 Awst 1915 fel rhan o Frwydr Gallipoli. Yn ystod y frwydr cafodd ei wobrwyo â Medal Aur Serbia oherwydd ei ddewrder yn achub swyddog o fyddin Serbia oedd wedi ei saethu yn nhir neb ac oedd methu dychwelyd yn ôl i linellau'r cynghreiriaid[1]. Ar ôl cyfnod mewn ysbyty ym Melita, ailymunodd Beadles â'i fataliwn ym Mhalesteina a chwaraeodd ran yn nhair Brwydr Gaza.
Ar ddiwedd y rhyfel, parhaodd y bataliwn ym Mhalesteina tan 1919 ac roedd Beadles yn aelod o dîm y 7fed Bataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig enillodd dlws Cynghrair Bêl-droed y Fyddin Brydeinig (Yr Aifft) ym 1919 o dan oruchwyliaeth Capten George Latham, oedd hefyd yn frodor o'r Drenewdd[3].
Gyrfa bêl-droed
[golygu | golygu cod]Ar ôl y Rhyfel Mawr dychwelodd Beadles i Gymru a chwaraeodd i'r Drenewydd cyn symud i Lannau Merswy i chwarae dros dîm amatur Graysons F.C.[4] ac ym 1921 arwyddodd i Lerpwl. Er gwneud cryn argraff yn ei dymor cyntaf yn Anfield, lle rhwydodd chwe gôl mewn 12 gêm a dod yn aelod o'r garfan lwyddodd i ennill Cynghrair Lloegr, methodd a sicrhau ei le yn y tîm y tymor canlynol, a symudodd i Gaerdydd lle roedd ei gyn gyd filwr, George Latham, bellach yn hyfforddwr[1][4].
Ym 1924-25 llwyddodd Beadles i chwarae 34 o gemau a sgorio14 o goliau dros Gaerdydd wrth i'r Adar Gleision orffen yn 11eg yn yr Adran Gyntaf[5] a chyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Sheffield United.[2] Colli oedd hanes Caerdydd ac erbyn mis Tachwedd 1925 roedd Beadles wedi ei werthu i Sheffield Wednesday. Ni chwaraeodd yr un gêm i Wednesday cyn symud i Southport yn Nhrydedd Adran (Y Gogledd) naw mis yn ddiweddarach.
Roedd Beadles yn brif sgoriwr ar Southport am dri tymor yn olynnol rhwng 1926 a 1929 a parhaodd ei record o rwydo mewn chwe gêm yn olynnol hyd 1957[1]. Symudodd i chwarae a rheoli Dundalk yng Nghynghrair Iwerddon am dymor ym 1929-30 cyn ymddeol o bêl-droed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. t. 16. ISBN 1-872424-11-2.
- ↑ 2.0 2.1 "1925 FA Cup Final". fa-cupfinals.co.uk.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "George Harold Beadles". Penmon.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-24. Cyrchwyd 2016-01-05.
- ↑ 4.0 4.1 "Harry Beadles". LiverpoolFC.
- ↑ "Cardiff City 1924-25". Statto.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-01-05.