Humphrey Lyttelton
Humphrey Lyttelton | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1921 Eton |
Bu farw | 25 Ebrill 2008 Barnet General Hospital |
Label recordio | Parlophone Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arweinydd band, arweinydd, trympedwr, newyddiadurwr, cyflwynydd radio, cerddor jazz, awdur ffeithiol, llenor, cyfansoddwr, hunangofiannydd, arlunydd comics, darlledwr |
Cyflogwr | |
Arddull | jazz |
Tad | G. W. Lyttelton |
Mam | Pamela Marie Adeane |
Priod | Elizabeth Hill Richardson, Patricia Mary Braithwaite Gaskell |
Plant | Henrietta Marie Lyttelton, Anthony Stephen Lyttelton, David George Lyttelton, Georgina Pamela Lyttelton |
Gwefan | http://www.humphreylyttelton.com |
Cerddor jazz o Loegr oedd Humphrey Richard Adeane Lyttelton (23 Mai 1921 - 25 Ebrill 2008).[1][2] Bu'n gadeirydd y gêm panel radio BBC I'm Sorry I Haven't a Clue ers 1972. Roedd yn gefnder i'r 10fed Is-iarll Cobham ac yn nai i'r gwleidydd a'r chwaraewr, Alfred Lyttelton, a oedd y dyn cyntaf i gynyrchioli Lloegr ym mhêldroed a criced.
Dyddiau cynnar a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganed Lyttelton yn Eton, ble roedd ei dad, G. W. Lyttelton (ail fab yr 8fed Is-iarll Cobham), yn feistr tŷ yn y coleg. (Fel disgynydd yn y linell gwrywaidd o Charles Lyttelton, roedd Lyttelton was yn rhelyw i Is-iarllaeth Cobham a Barwniaeth Lyttelton.) O Ysgol Paratoadol Sunningdale, aeth Lyttelton ymlaen i Goleg Eton. Yn Eton, datblygodd ei ddidordeb mewn jazz. Ysbrydolwyd ef gan y trwmpedwyr Louis Armstrong a Nat Gonella, a dysgodd ei hun sut i chwarae'r offeryn cyn ffurfio pedwarawd yn yr ysgol yn 1936 a oedd hefyd yn cynnwys y newyddiadurwr i ddod, Ludovic Kennedy, ar y drymiau.
Wedi gadael yr ysgol, gwariodd Lyttelton amser yn y gwithfeydd plât dur ym Mhort Talbot, profiad a arweiniodd ato'n dod yn "socialwr rhamantus" fel y gelwodd ei hun. Gelwyd ef i fyny ar gyfer gwasanaeth yn y fyddin, gwasanaethodd yn y Gardiau Grenadier, a cafodd ei gomisiynu'n is-gapten ar 29 Tachwedd 1941,[3] gwelodd arwaith yn Salerno yn ystod Operation Avalanche pan ddaeth i'r lan gyda'i bistol yn un llaw, a'i drumped yn y llall.[4] Ar ddiwrnod VE, 8 Mai 1945, ymunodd Lyttelton yn y dathliadau gan chwarae ei drwmped o ferfa, gan gael ei berfformiad wedi ei ddarlledu am y tro cyntaf ar hap; mae recordiad y BBC yn dal i oroesi. Yn dilyn dadfyddiniad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mynychodd Coleg Celf Camberwell am ddwy flynedd.
Ymunodd â'r Daily Mail fel cartwnydd yn 1949, lle bu hyd 1956. Mae sawl o'i gartŵniau wedi cael eu arddangos ym Manc yr Abbey yn ddiweddar, fel ran o'r ymgyrch hysbysebu.
Discograffi
[golygu | golygu cod]- Hook Line and Sinker
- Blues in the Night
- Blues in Bolero
- Beano Boogie
- Movin' and Groovin'
- The Parlophone Sessions, cyf. 1-4
- Delving Back and Forth with Humph
- Take it from the Top
- Swinging Scorpio
- Hear Me Talkin' To Ya
- The Jazz Club
- Yours and Mine
- It Seems Like Yesterday
- Scatterbrains
- Dixie Gold
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- I Play as I Please: The memoirs of an Old Etonian trumpeter (1954)
- Second Chorus (1958)
- Take it from the Top: An Autobiographical Scrapbook (1975)
- Best of Jazz (1978)
- Why No Beethoven?: Diary of a Vagrant Musician (1984)
- It Just Occurred to Me...: An Autobiographical Scrapbook (2006)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Humphrey Lyttelton (2008-04-25).
- ↑ Jazz legend Lyttelton dies at 86. BBC News (2008-04-25).
- ↑ "?", London Gazette, 16 Rhagfyr 1941, t. 7169.
- ↑ George Melly; Jeremy Hardy a John Fordham (28 Ebrill 2008). Humphrey Lyttelton—Masterly jazz musician and broadcaster who chaired Radio 4's I'm Sorry I Haven't a Clue with wit and charm. The Guardian.