Hunanaddysg
Gwedd
Y broses o addysgu'ch hunan yw hunanaddysg, sef y broses o ddysgu heb arweiniad pedagogaidd gan neb arall.
Mae rhai hunanaddysgedigion yn treulio'r rhan fawr o'u hamser mewn llyfrgelloedd neu ar wefannau addysgol. Mae nifer o gyhoeddwyr yn cynhyrchu llyfrau, cryno ddisgiau, a DVDau a fwriedir am hunanaddysg, megis cyrsiau ieithoedd a chyfryngau i unigolion ddysgu offerynnau cerdd.
Weithiau mae hunanaddysg yn rhan o addysg ffurfiol ehangach, er enghraifft, mae dysgu annibynnol yn ffurfio rhan bwysig o gyrsiau addysg uwch.
Mae hunanaddysg yn bwnc poblogaidd mewn llenyddiaeth a ffuglen. Mae enghreifftiau yn cynnwys Hayy ibn Yaqdhan gan Ibn Tufail, Nausea gan Jean-Paul Sartre, a'r ffilm Good Will Hunting.