John Webster
John Webster | |
---|---|
Ganwyd | 1578 Llundain |
Bu farw | 1634 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, bardd, llenor |
Adnabyddus am | The White Devil, The Duchess of Malfi |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Mudiad | Theatr y Dadeni yn Lloegr |
Dramodydd o Loegr oedd John Webster (tua 1580 – tua 1632) a flodeuai yn ystod Oes Iago. Ystyrir ei ddramâu The White Devil a The Duchess of Malfi yn enghreifftiau rhagorol o'r drasiedi Saesneg ac yn ail yn llên Lloegr yn yr 17g dim ond i weithiau William Shakespeare.
Ni wyddys llawer am fywyd Webster. Cafodd ei eni yn Lundain tua 1580. Yn ôl ei ragair i Monuments of Honor, cafodd ei eni'n rhyddfreiniwr i Gwmni Anrhydeddus y Teilwriaid Masnachol, un o gwmnïau lifrai Dinas Llundain. Mae'n debyg iddo weithio'n saer cerbydau, ac o bosib yn actor yn ogystal â dramodydd.[1]
Ysgrifennodd Webster dair drama ar ben ei hunan: ei ddau gampwaith The White Devil (1612) a The Duchess of Malfi (tua 1613), a'r drasicomedi The Devil's Law-Case (tua 1620). Cydweithiodd gyda dramodwyr eraill ar weddill ei weithiau i'r theatr. Gyda Thomas Dekker oedd ei brif bartneriaeth, ac ymhlith eu cyweithiau mae Westward Ho (1604) a Northward Ho (1605). Credir hefydd iddo gydysgrifennu dramâu â William Rowley, Thomas Middleton, John Fletcher, John Ford, ac o bosib Philip Massinger.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) John Webster. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Awst 2019.