Josiah Thomas Jones
Josiah Thomas Jones | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1799 Clydau |
Bu farw | 27 Ionawr 1873 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyhoeddwr, gweinidog yr Efengyl, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau, argraffydd |
Priod | Rebecca Lines |
Perthnasau | David Griffiths |
Gweinidog Ymneilltuol, awdur a chyhoeddwr Radicalaidd o Gymruoedd Josiah Thomas Jones (23 Medi 1799 – 26 Ionawr 1873).[1] Roedd yn werinwr i'r carn a gredai mewn cyflwyno gwybodaeth i werin ei wlad. Ei gyhoeddiad mwayf adnabyddus heddiw yw Enwogion Cymru, geiriadur bywgraffyddol a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol yn 1867.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o blwyf Clydai, Sir Benfro oedd Josiah Jones. Yn 14 oed aeth oddi cartref a bu'n gweithio mewn siop yn Arberth. Dechreuodd bregethu ac yn 1828 cafodd ei wneud yn weinidog Pendref, Caernarfon. Bu yn y dref honno hyd 1836, lle dechreuodd gyhoeddi ac argraffu llyfrau Cymraeg. Yno bu ganddo ran yn Y Seren Ogleddol, dan olygyddiaeth Caledfryn. Symudodd i dref Merthyr Tudful a chychwyn newyddiadur Saesneg, sef y Merthyr and Cardiff Chronicle ond bu rhaid iddo adael oherwydd erledigaeth gan y meistri haearn a ofnai farn radicalaidd Josiah Jones. Dychwelodd i'r weinidogaeth ac ymgartrefu yng Nghaerfyrddin yn 1838. Sefydlodd wasg yno. Yn 1852 aeth i Aberdâr lle treuliodd weddill ei oes. Bu farw yno ganol nos 26/27 Ionawr, 1873.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- Newyddiaduron
- Merthyr and Cardiff Chronicle
- Yr Odydd Cymraeg
- Y Gwron Cymreig
- Y Gweithiwr
- The Aberdare Times
- Llyfrau
- Daearyddiaeth Ysgrythyrol
- Geiriadur Bywgraffyddol Enwogion Cymru (Aberdâr, 2 gyfrol, 1867)