Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Jwrasig Hwyr

Oddi ar Wicipedia
System/
Cyfnod
Cyfres/
Epoc
Cyfnod/
Oes
Oed (Ma)
Cretasaidd Is/
Cynnar
Berriasian iau
Jwrasig Uwch/
Hwyr
Tithonaidd ~145.0 152.1
Kimmeridgaidd 152.1 157.3
Oxfordaidd 157.3 163.5
Canol Callovaidd 163.5 166.1
Bathonaidd 166.1 168.3
Bajocaidd 168.3 170.3
Aalenaidd 170.3 174.1
Is/
Cynnar
Toarcaidd 174.1 182.7
Pliensbachaidd 182.7 190.8
Sinemuraidd 190.8 199.3
Hettangaidd 199.3 201.3
Triasig Uwch/
Hwyr
Rhaetaidd hŷn / hynach
Israniadau'r System Jwrasig yn ôl:
Comisiwn Rhyngwladol Stratigraffeg
(International Commission on Stratigraphy neu'r ICS); 2017.[1]

Y Jwrasig Hwyr yw trydydd cyfnod y cyfnod Jwrasig, ac mae'n rhychwantu'r amser geolegol o 163.5 ± 1.0 i 145.0 ± 0.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP); cedwir holl dystiolaeth y cyfnod o fewn strata'r Jwrasig Uchaf. Yn lithostratigraffeg Ewropeaidd, mae'r enw "malm" yn dangos creigiau o Oes Jwrasig Hwyr. Yn y gorffennol, defnyddiwyd yr enw hwn hefyd i ddangos yr uned o amser daearegol, ond mae'r defnydd hwn bellach yn cael ei anghymeradwyo.

Is-raniadau

[golygu | golygu cod]

Gellir rhannu'r Jwrasig Hwyr yn dair rhan, a ddiffiniwyd gan ddigwyddiadau'n ymweneud â ffawna a chreigiau'r oes:

  Tithonaidd (152.1 ± 0.9 – 145.0 ± 0.8 Ma)
  Kimmeridgiaidd (157.3 ± 1.0 – 152.1 ± 0.9 Ma)
  Oxfordiaidd (163.5 ± 1.0 – 157.3 ± 1.0 Ma)

Paleoddaearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yn ystod y Jwrasig Hwyr torrodd yr uwchgyfandir Pangea yn ddau: Laurasia i'r gogledd, a Gondwana i'r de. Canlyniad y toriad hwn oedd creu Cefnfor yr Iwerydd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, roedd Cefnfor yr Iwerydd yn gymharol gul.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Owen, Donald E. (Mawrth 1987). "Commentary: Usage of Stratigraphic Terminology in Papers, Illustrations, and Talks". Journal of Sedimentary Petrology 57 (2): 363–372. http://www.agiweb.org/nacsn/JSP_commentary.htm.
  • Kazlev, M. Alan (2002-06-28). "Late Jurassic — The Malm Epoch: The Acme of the Dinosaurs". Palæos. Cyrchwyd 2014-10-23.