Larry Sanger
Gwedd
Larry Sanger | |
---|---|
Ganwyd | Lawrence Mark Sanger 16 Gorffennaf 1968 Bellevue |
Man preswyl | Columbus |
Dinasyddiaeth | UDA |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, blogiwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, person busnes |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Wikipedia, Citizendium |
Gwefan | https://larrysanger.org/ |
Mae Lawrence Mark Sanger (ganwyd 16 Gorffennaf 1968) yn ddatblygwr prosiectau rhyngrwyd Americanaidd, yn gyd-sylfaenydd Wikipedia, ac yn sefydlydd Citizendium.[1]
Cafodd ei fagu yn Anchorage, Alaska. O oedran cynnar roedd ganddo ddiddordeb mewn athroniaeth. Derbyniodd radd baglor y celfyddydau mewn athroniaeth o Goleg Reed yn 1991 a Doethuriaeth mewn Athroniaeth o Brifysgol y Wladwriaeth, Ohio yn 2000. Mae'r rhan fwyaf o'i waith athronyddol wedi canolbwyntio ar epistemoleg, y theori gwybodaeth.[2]
Mae wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau gwyddoniadurol ar-lein. Gadawodd Wikipedia yn 2002, gan na chredai fod y prosiect yn un crediniol, a bu'n llawdrwm ei feirniadaeth ers hynny.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jennifer Joline Anderson (2011). Wikipedia: The Company and Its Founders (arg. 1). Abdo Group. t. 20. ISBN 1617148121.
- ↑ Roush, Wade (Ionawr 2005). "Larry Sanger's Knowledge Free-for-All". Technology Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 25 Mawrth 2007.
- ↑ "Wikipedia founder sets up rival". Australian IT. 19 Hydref 2006. Cyrchwyd 4 Awst 2014.