Lee Miller
Lee Miller | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ebrill 1907 Poughkeepsie |
Bu farw | 21 Gorffennaf 1977 o canser Chiddingly |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gohebydd rhyfel, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, model, newyddiadurwr, arlunydd, ffotograffydd ffasiwn, ffotograffydd |
Mudiad | Swrealaeth |
Priod | Roland Penrose, Aziz Eloui Bey |
Partner | Man Ray |
Plant | Antony Penrose |
Gwefan | http://www.leemiller.co.uk/ |
llofnod | |
Roedd Elizabeth "Lee" Miller, Lady Penrose (23 Ebrill 1907 – 21 Gorffennaf 1977) yn fodel ffasiwn lwyddiannus yn Efrog Newydd yn y 1920au cyn symud i Baris ble bu'n rhan o'r grŵp celfyddydol y Swrrealyddion
Aeth ymlaen i fod yn ffotograffydd a newyddiadurwraig adnabyddus yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cofnodi bomio Llundain, rhyddhau Paris a gwersylloedd carchar Buchenwald a Dachau.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Lee Miller ym Poughkeepsie ger Efrog Newydd. Daeth hi'n arfer ag edrychiad a chwant dynion yn ifanc iawn. Roedd ei thad yn ffotograffiaeth amaturiaid a'i pherswadiodd i fodelu yn noeth. Pan roedd hi'n 8 mlwydd oed fe'i threisiwyd wrth aros gyda ffrind y teulu yn cael ei heintio gyda hadlif (gonorrhea). Cyn dyfeisio penisilin bu'r driniaeth am yr haint yn hynod o annifyr yn arbennig i ferch mor ifanc a oedd wedi dioddef ymosodiad mor ffiaidd.[1]
Model
[golygu | golygu cod]Yn 19 oed, bu bron iddi gael ei tharo gan gar wrth groesi'r stryd yng nghanol Efrog Newydd, yn ffodus fe'i thynnwyd yn ôl mewn pryd gan ddyn a oedd digwydd cerdded yn agos. Y dyn oedd Condé Nast cyhoeddwr cylchgrawn ffasiwn Vogue, yn sylwi ar ei harddwch, fe'i gwahoddwyd i fodela i Vogue.[2][3]
Ymddangos ar y clawr ym Mawrth 1927 ac fe ddaeth yn un o'r modelau mwyaf llwyddiannus y cyfnod.[4]
Daeth ei gyrfa i ben yn dilyn sgandal pan ddefnyddiwyd llun ohoni i hysbysebu padiau mislif merched.[5]
Ffotograffiaeth
[golygu | golygu cod]Ym 1929, teithiodd Miller i Baris gyda'r bwriad o fod yn brentis i'r arlunydd a ffotograffydd swrrealaidd Man Ray. Er i Man Ray mynnu ar y dechrau nad oedd yn hyfforddi myfyrwyr, fe ddaeth Miller yn fodel, gydweithiwr a chariad iddo.[1]
Tra ym Mharis, fe ddechreuodd ei stiwdio ffotograffig ei hun, yn aml yn cymryd drosodd prosiectau Man Ray er mwyn iddo fo ganolbwyntio ar beintio. Mae llawer o'r ffotograffau a brodolwyd i Man Ray wedi'u tynnu gan Lee Miller. Gyda Man Ray datblygydd y dechneg ystafell dywyll o heulo (solarisation) printiau. Ymhlith ei gylch o ffrindiau oedd Pablo Picasso, Paul Éluard, a Jean Cocteau, ymddangosodd mewn ffilm Cocteau Le Sang d'un Poète (Gwaed y bardd) ym 1930.[6]
Gadwodd Man Ray ym 1932, yn dychwelyd i Efrog Newydd i sefydlu stiwdio ffotograffiaeth lwyddiannus gyda'i brawd Erik yn cynorthwyo yn yr ystafell dwyll.
Ym 1934, rhoddodd y gorau i'w stiwdio i briodi dyn busnes o'r Aifft Aziz Eloui Bey a oedd wedi dod i Efrog Newydd i brynu offer ar gyfer rheilffyrdd ei wlad. Symudodd i fyw yn Yr Aifft gyda'i gŵr, er i Miller beidio â gweithio fel ffotograffydd yn ystod y cofnod yma, tynnodd nifer o luniau yn cynnwys Portrait of Space, (1937) a dynnwyd o babell yn yr anilawch a ystyrir ymhlith ei delweddau swrrealaidd mwyaf nodweddiadol. Erbyn 1937 roedd Miller wedi syrffedu ar fywyd yn yr Aifft a dychwelodd i Baris ble cyfarfu â'r peintiwr swrrealaidd o Sais Roland Penrose a briododd yn ddiweddarach.
Yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Ar ddechrau'r rhyfel, roedd Miller yn byw yn Llundain gyda Penrose pan ddechreuodd bomio'r ddinas. Anwybyddodd alwadau ei ffrindiau a theulu i ddychwelyd i'r Unol Daleithiau a dechreuodd gyrfa newydd fel newyddiadurwraig ffotograffig ar gyfer Vogue. Fe'i chydnabuwyd gan fyddin yr Unol Daleithiau fel ffotograffydd swyddogol a chydweithiodd gyda'r ffotograffydd David E. Scherman o gylchgrawn Life.
Teithiodd i Ffrainc yn llai na mis ar ôl D-Day a chofnodydd y defnydd cyntaf o napalm yn ystod brwydr Sant-Maloù, rhyddhau Paris, brwydr Alsace a gwersylloedd carchar Buchenwald a Dachau. Mae llun o Miller a dynnwyd gan Scherman ohoni'n gorwedd mewn bath Adolf Hitler yn un o'r delweddau eiconig y bartneriaeth Miller-Scherman.[7]
Hefyd yn ystod cyfnod y rhyel tynnodd Miller luniau o blant yn marw mewn ysbyty yn Fienna, bywyd cefn gwlad Hwngari a dienyddio László Bárdossy, cyn brif weinidog Hwngari gan sgwad saethu. Ar ôl y rhyfel gweithiodd i Vogue am ddwy flynedd arall ar ffasiwn a sêr y byd adloniant.
Dwyrain Sussex
[golygu | golygu cod]Ar ôl dychwelyd i Loegr o'r rhyfel, dechreuodd Miller ddioddef o iselder – yr hyn yr elwir heddiw yn post-traumatic stress syndrome. Dechreuodd yfed yn drwm ac roedd yn ansicr am y dyfodol.
Ym 1946, teithiodd gyda Roland i'r Unol Daleithiau, ble ymwelodd â Man Ray. Pan ddarganfuddodd roedd hi'n beichiog gyda ei unig plentyn, Anthony, ysgarodd â Eloui Bey ac phroidodd Penrose ym 1947. Symudodd y cwpl i fyw yn Nwyrain Sussex ac yn y blynyddoedd canlynol fe ddaeth y tŷ yn atyniad i arlunwyr enwog gyda Picasso, Man Ray, Henry Moore, Eileen Agar, Jean Dubuffet a Max Ernst ymhlith yr ymwelwyr.
Roedd cof ei phrofiadau yn ystod y rhyfel, yn arbennig erchyllterau Buchenwald a Dachau yn ei phonei am weddill ei hoes.[8]
Bu farw Miller o ganser yn Tŷ Fferm Farley, Chiddingly, Dwyrain Sussex, ym 1977, yn 70 oed.
Ail ddarganfod ac enwogrwydd
[golygu | golygu cod]Doedd Anthony Penrose ddim yn gwybod am hanes ei fam a'i phrofiadau rhyfel nes iddo ddarganfod ei ffotograffau a llythrennau mewn bocsys yn atig Fferm Fairley ar ôl ei marwolaeth hi. Yn 1985 ysgrifennodd The Lives of Lee Miller - bywgraffiad o'i fam a chydweithiodd gyda nifer o raglenni dogfen ac arddangosfeydd o'i waith sydd wedi dod a hanes Lee Miller a'i ffotograffiaeth i sylw'r byd. Mae hi bellach yn cael ei gweld fel un o fawrion yn hanes ffotograffiaeth ac yn eicon ffeministaidd
Yn 2023 ymddangosodd y ffilm Hollywood Lee am fywyd Lee Miller gyda Kate Winslet yn y brif ran. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar ail ran o'i bywyd a gwaith fel ffotograffydd rhyfel ac wedi'i seilio'n bennaf ar lyfr Anthony.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Darwent, Charles (27 January 2013). "Man crush: When Man Ray met Lee Miller". The Independent. Cyrchwyd 9 May 2014.
- ↑ http://www.theguardian.com/artanddesign/2013/apr/22/lee-miller-war-peace-pythons
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-27. Cyrchwyd 2014-09-19.
- ↑ "Lee Miller: Portraits". National Portrait Gallery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-02. Cyrchwyd 16 June 2014.
- ↑ "Photographer Lee Miller and Kotex menstrual pads".
- ↑ MacWeeney, Antony; Penrose, Anthony (2001). The Home of the Surrealists: Lee Miller, Roland Penrose, and Their Circle at Farley Farm. t. 31. ISBN 9780711217263.
- ↑ Dark secret of the woman in Hitler's bathtub: How war photographer Lee Miller was raped as a child by a relative and forced to pose naked by her father, by David Leafe. Published 12 March 2013, retrieved 8 July 2013
- ↑ Prose, Francine (2002). The Lives of the Muses. Perennial. ISBN 0-06-019672-6.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Archif Lee Miller
- Tŷ Farley – ei hen dŷ yn Ne Lloegr[dolen farw]
- The Lee Miller file by Sanchia Berg, BBC, gwasanaeth cudd MI5 yn sbio ar Miller
- Six Pictures Of Lee Miller Archifwyd 2015-04-26 yn y Peiriant Wayback Sioe gerddorol am Miller
- Looking Down on Lee Miller: Carolyn Burke’s Lee Miller: A Life Henry Edward Hardy, Scanlyze
- The look of the moment gan Ali Smith yn The Guardian
- The Art of Lee Miller, Amgeuddfa Victoria ac Albert
- Surrealism Reviewed llyfr sain gyda Lee Miller