Levi Stubbs
Levi Stubbs | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1936 Detroit |
Bu farw | 17 Hydref 2008 o canser Detroit |
Label recordio | Motown Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, canwr, actor, actor llais |
Arddull | cerddoriaeth yr enaid |
Math o lais | bariton |
Canwr bariton Americanaidd oedd Levi Stubbles, a adnabyddid orau o dan ei enw llwyfan, Levi Stubbs (6 Mehefin 1936 – 17 Hydref 2008). Adnabyddid orau fel prif lais grŵp R&B Motown, The Four Tops
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Detroit yn 1936,[1] a dechreuodd ei yrfa canu proffesiynol gyda'i ffrindiau, Abdul "Duke" Fakir, Renaldo "Obie" Benson a Lawrence Payton, gan ffurfio grŵp canu The Four Aims yn 1954. Dyflwydd yn ddiweddarach, ar ôl arwyddo cytundeb gyda label Chess Records, newidiodd y grŵp eu enw i Four Tops - er mwyn osgoi drysu rhyngddynt a grŵp Ames Brothers a oedd yn boblogaidd ar y pryd.[1] Dechreuodd y grŵp fel act clwb-swper cyn arwyddo cytundeb gyda Motown Records yn 1963; erbyn diwedd y ddegawd, rodd gan y Four Tops dros ddwsin o hitiau i'w henw. Mae'r mwyaf poblogaidd yn cynnwys "Baby I Need Your Loving", "I Can't Help Myself (Sugar Pie, Honey Bunch)", "It's the Same Old Song", "Reach Out I'll Be There", "Standing in the Shadows of Love", "Bernadette", "Still Water (Love)", ac "Ain't No Woman (Like the One I've Got)".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Stars mourn Four Tops star Stubbs. BBC (28 Hydref 2008).