Llyn Coch
Gwedd
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.06894°N 4.093187°W |
Llyn bychan yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn Coch. Fe'i lleolir yng Nghwm Clogwyn yn uchel ar lethrau gorllewinol Yr Wyddfa tua milltir i'r gorllewin o'r copa.[1] Mae'r llyn 700llath wrth tua 150 llath.[2]
Mae dŵr y llyn yn fas. Llifa ffrwd iddo o lethrau'r Wyddfa ger llaw. Mae dyfroedd y ffrwd a'r llyn ei hun yn goch oherwydd presenoldeb haearn. Y lliw coch hwn sy'n rhoi ei enw i'r llyn. Ceir rhai brithyll bychain yn y llyn.[2]
Llifa ffrwd o ben gogleddol y llyn i lifo i lawr i Afon Treweunydd sy'n llifo wedyn i Llyn Cwellyn. Tua chwarter milltir i'r gorllewin o Lyn Coch ceir llyn bychan arall, sef Llyn Nadroedd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 115 Caernarfon a Bangor.
- ↑ 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 176.