Llywodraeth Catalwnia
Senedd Catalwnia (y mwyaf diweddar) Parlament de Catalunya | |
---|---|
11fed | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Unsiambrog |
Arweinyddiaeth | |
Llywydd | Carme Forcadell (JxSí) ers 26 Hydref 2015 |
Is-lywydd Cyntaf | Lluís Corominas (JxSí) ers 26 Hydref 2015 |
Ail Is-lywydd | José María Espejo-Saavedra (C's) ers 26 Hydref 2015 |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 135 |
Grwpiau gwleidyddol | Bloc annibyniaeth (72):
Bloc gwrth-annibyniaeth (52): Grŵp arall (11):
|
Etholiadau | |
System bleidleisio | Cynrychiolaeth gyfrannol gyda rhestrau pleidiol |
Etholiad diwethaf | 27 Medi 2015 |
Etholiad nesaf | Ar neu gyn 11 Tachwedd 2019 |
Man cyfarfod | |
Palau del Parlament de Catalunya, Parc de la Ciutadella, Barcelona | |
Gwefan | |
www.parlament.cat |
Llywodraeth Catalwnia (Generalitat de Catalunya) yw prif gorff llywodraethol Catalwnia.[1] Lleolir y Llywodraeth ym mharc Ciutadella, Barcelona ac mae'n cynnwys 135 o aelodau ("diputats"). Ar 27 Hydref yn dilyn Refferendwm 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia, dan arweiniad ei Llywydd, Carles Puigdemont, Ddatganiad o Annibyniaeth, a'u bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia; pleidleisiwyd 70–10 dros y cynnig. Fel ymateb i hyn, cyhoeddodd Mariano Rajoy, Prif Weinidog Sbaen ei fod yn dod a Llywodraeth Catalwnia i ben, ac y byddai'n cynnal etholiad yn Rhagfyr.
Cynhaliwyd yr etholiadau diweddaraf ar 27 Medi 2015; gweler: Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015.
Hyd at 27 Hydref 2017, Llywydd Llywodraeth Catalwnia oedd Carme Forcadell (Junts pel Sí), a chyn hynny Artur Mas o'r blaid Convergència i Unió a ddaeth i'w swydd yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2010. Nid enillodd ei blaid fwyafrif clir ond ceir cytundebau dros-dro gydag ambell blaid arall, ar ffurf cynghrair achlysurol. Cefnogwyd ei arweinyddiaeth gan Esquerra Republicana de Catalunya (Plaid Sosialaidd Catalwnia).
Llywydd y Generalitat o flaen Mas oedd José Montilla, arweinydd Plaid Sosialaidd Catalwnia. Mae ei bencadlys swyddogol ym Mhalas y Generalitat (neu'r Palau de la Generalitat de Catalunya). Yn 2006 roedd gan y Generalitat gyfrifoldeb am dros €24 biliwn a godwyd i €33 biliwn yn 2010.[2]
Y Canoloesoedd
[golygu | golygu cod]Deillia'r Generalitat o sefydliad o'r Canoloesoedd a oedd yn rheoli yn enw Coron Aragon ac o Lysoedd Brenhinol Catalan (neu'r Corts Catalanes) o gyfnod Jaume I el Conqueridor (1208-1276) ac mae'r Cyfansoddiad cyntaf yn dyddio'n ôl i 1283.
Cynsail gyfreithiol arall yw'r Diputació del General de Catalunya sef Comisiwn y Ddirprwyaeth sydd hefyd a'i wreiddiau yn y Canoloesoedd.
Datganiad o Sofraniaeth
[golygu | golygu cod]Ar 23 Ionawr 2013 derbyniodd y Llywodraeth gynnig o 85 pleidlais i 41 (gyda 2 yn ymatal): "Datganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i bobl Catalwnia Benderfynu eu Dyfodol eu Hunain." Pasiwyd gan fwyafrif o 44 dros y cynnig; arweiniodd hyn at gynnal Refferendwm Catalwnia 2014. Roedd rhan o'r Cynnig yn mynegi:
Yn unol ag ewyllys mwyafrif pobl Catalwnia, a fynegwyd yn gwbwl ddemocrataidd, mae Llywodraeth Catalawnia'n gwahodd proses i hyrwyddo hawl dinasyddion Catalwnia i benderfynu fel un corff beth fydd eu dyfodol gwleidyddol.[3]
- O blaid annibyniaeth (a nifer y pleidleisiau)
- Convergència i Unió, CiU - 50
- Esquerra Republicana de Catalunya, ERC - 21
- Iniciativa per Catalunya Verds, ICV - 13
- Candidatura d'Unitat Popular, CUP - 1
- Yn erbyn
- Partit Popular de Catalunya, PPC - 19
- Ciutadans (Plaid y Bobl, Sbaen) - 9
- Partit dels Socialistes de Catalunya, PSC-PSOE - 15
Ar 8 Mai 2013, mynegodd Prif Lys Sbaen fod yn rhaid i'r penderfyniad hwn gael ei ohirio.[4] Fel ymateb i hyn, cyhoeddodd y llywodraeth eu bwriad i gynnal Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 a fyddai'n refferendwm de facto dros annibyniaeth.
Llywyddion y Generalitat 1932–presennol)
[golygu | golygu cod]- Pleidiau
Esquerra Republicana de Catalunya (ERC) (4)
Convergència i Unió (CiU) (2)
Partit dels Socialistes de Catalunya (PSC) (2)
Junts pel Sí (JxSí) (1)
No. | Cyfnod | Llun | Enw | Plaid | Nodiadau | |
---|---|---|---|---|---|---|
122 | 14 Rhagfyr 1932 | 25 Rhagfyr 1933 | Francesc Macià | ERC | Bu farw tra yn ei swydd. | |
123 | 25 Rhagyr 1933 | 15 Hydref 1940 | Lluís Companys | ERC | Bu'n alltud o 23 Ionawr oherwydd Rhyfel Cartref Sbaen ac yna unbeniaeth Francisco Franco; arestiwyd ef gan y Gestapo yn Ffrainc yn 1940, ei symud i Sbaen lle saethwyd ef. | |
124 | 15 Hydref 1940 | 7 Awst 1954 | Josep Irla | ERC | Alltud. | |
125 | 7 Awst 1954 | 24 Ebrill 1980 | Josep Tarradellas | ERC | Yn alltud hyd at 17 Hydref 1977.Ymddeolodd wedi Etholiad 1980. | |
126 | 24 Ebrill 1980 | 16 Rhagfyr 2003 | Jordi Pujol | CiU | ||
127 | 16 Rhagfyr 2003 | 28 Tachwedd 2006 | Pasqual Maragall | PSC | ||
128 | 28 Tachwedd 2006 | 27 Rhagfyr 2010 | José Montilla | PSC | Y Llywydd cyntaf i beidio a bod yn Gatalan. | |
129 | 27 Rhagfyr 2010 | 10 Ionawr 2016 | Artur Mas | CiU | ||
130 | 10 Ionawr 2016 | 28 Hydref 2017 | Carles Puigdemont | JxSí | Diddymwyd ei swydd gan Senedd Sbaen yn dilyn Refferendwm 2017 a Datganiad o Annibyniaeth a sefydlu Gweriniaeth Catalwnia ychydig wythnosau wedi hynny.[5] | |
– | 28 Hydref 2017 | – | Yng ngolwg Llywodraeth Sbaen, diddymwyd y swydd a throsglwyddwyd y cyfrifoldebau i Ddirprwy Brif weinidog Sbaen, Soraya Sáenz de Santamaría. Yng ngolwg Puigdemont a'r rhai o blaid annibyniaeth, ni newidiwyd dim, gan nad oedd gan Sbaen hawl i ymyrryd.[6][7] |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Government of Catalwnia. "Identificació de la Generalitat en diferents idiomes" [Official translation instruction] (PDF). Cyrchwyd 25 April 2015.
- ↑ "Statistical Institute of Catalwnia, '''Generalitat de Catalunya. Cyllideb. 2006-2010, pennod'''". Idescat.cat. Cyrchwyd 2014-04-18.
- ↑ Colomer, Marco (22 Ionawr 2013). "The declaration of sovereignty starts off in Parliament" (yn Catalaneg). Ara.
- ↑ www.tribunalconstitucional.es; Archifwyd 2016-06-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2015
- ↑ "Spanish PM removes Catalan regional premier from post, calls December 21 polls". El País. 28 Hydref 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-30. Cyrchwyd 28 Hydref 2017.
- ↑ "Rajoy delega les funcions de president de la Generalitat en Soraya Sáenz de Santamaría" (yn Catalan). Ara. 28 Hydref 2017. Cyrchwyd 28 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Rajoy delega en Soraya Sáenz de Santamaría la Presidencia de la Generalitat" (yn Spanish). El Mundo. 28 Hydref 2017. Cyrchwyd 28 Hydref 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)