Môr-ladrad yn Somalia
Daearyddiaeth | |
---|---|
Mae môr-ladrad yn Somalia yn fygythiad i longau ers ail gyfnod Rhyfel Cartref Somalia ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.[1] Ers 2005, mae nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad Arforol Rhyngwladol a Rhaglen Bwyd y Byd, wedi mynegi eu pryder dros y cynnydd mewn môr-ladrad yn yr ardal.[2] O ganlyniad cynyddodd costau cludo mewn llongau a rhwystrodd trosglwyddiad cymorth bwyd. Cyrhaeddir 90% o lwythau Rhaglen Bwyd y Byd gan longau, ac mae'n rhaid i longau yn yr ardal hon gael eu hebrwng gan luoedd milwrol bellach.[3]
Awgrymir adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig a nifer o ffynonellau newyddion taw pysgota anghyfreithlon a gollwng gwastraff gwenwynig yn nyfroedd Somaliaidd gan longau tramor sydd yn rhannol gyfrifol am fôr-ladrad ger arfordir Somalia. Yn ôl pysgotwyr Somaliaidd, mae hyn wedi rhwystro ar allu pobl leol i ennill bywoliaeth ac o ganlyniad yn eu troi at fôr-ladrad.[4][5] Cefnogir môr-ladrad yn gryf gan 70% o bobl mewn cymunedau ar yr arfordir fel "ffurf o amddiffyniad cenedlaethol dros ddyfroedd tiriogaethol y wlad", a chredir y môr-ladron eu bod yn amddiffyn eu hardaloedd pysgota ac yn cael cyfiawnder ac iawndal am yr adnoddau morol a ladratwyd ohonynt.[6][7][8] Awgrymir rhai môr-ladron eu bod yn amddiffyn dyfroedd eu gwlad mewn absenoldeb system genedlaethol effeithiol o wylwyr y glannau o ganlyniad i'r rhyfel cartref a datgyfannu lluoedd milwrol Somalia. Gelwir un o rwydweithiau'r môr-ladron eu hunain yn Wylwyr Gwirfoddol Cenedlaethol y Glannau (NVCG).[5] Ond, wrth i fôr-ladrad ddod yn sylweddol fwy enillfawr mewn blynyddoedd diweddar, awgrymir rhai adroddiadau taw elw ariannol yw'r prif gymhelliad gan fôr-ladron Somaliaidd bellach.[9][10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Piracy in Somali Waters: Rising attacks impede delivery of humanitarian assistance". UN Chronicle (Y Cenhedloedd Unedig).
- ↑ (Saesneg) Piracy in waters off the coast of Somalia. Y Sefydliad Arforol Rhyngwladol.
- ↑ (Saesneg) Pirates in Standoff Threaten Food Aid, Global Shipping. National Geographic (10 Hydref 2008).
- ↑ Dagne, Ted (2009), Somalia: Conditions and Prospects for Lasting Peace. CRS.
- ↑ 5.0 5.1 Axe, David (2009), Somalia Redux: a more hands off approach. CATO Institute.
- ↑ (Saesneg) 3. Toxic Waste Behind Somali Pirates. Project Censored (2010).
- ↑ (Saesneg) Ecoterra Press Release 257 – The Somalia Chronicle June – December 2009, no 70. Buzzle.com (29 Mawrth 2010).
- ↑ (Saesneg) The Two Piracies in Somalia: Why the World Ignores the Other. WardheerNews.com (8 Ionawr 2009).
- ↑ (Saesneg) Somali piracy becoming "criminal enterprise". Reuters (16 Chwefror 2011).
- ↑ (Saesneg) Piracy surges despite defense measures. Korea Times (Chwefror 2011).