Mantell dramor
Vanessa cardui | |
---|---|
Rhan ucha'r adain | |
Tan yr adain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Vanessa |
Is-enws: | Cynthia |
Rhywogaeth: | V. cardui |
Enw deuenwol | |
Vanessa cardui (Linnaeus, 10fed rhifyn: Systema Naturae, 1758) | |
Cyfystyron | |
Papilio cardui Linnaeus, 1758 |
Glöyn byw lliwgar sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell dramor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll tramor; yr enw Saesneg yw Painted Lady, a'r enw gwyddonol yw Vanessa cardui.[1][2] Y gair amgen amdano yng ngogledd America ydy Cosmopolitan. Un o'i nodweddion hynotaf yw ei bod yn hedfa ar ffurf sgriw. Mae'n ymweld â gwledydd Prydain ym Mai a Mehefin.
Caiff ei fagu'n aml iawn mewn ysgolion er mwyn dangos cylch bywyd y glöyn byw. Mae'n edrych yn debyg i ddau rywogaeth arall: Vanessa virginiensis a Vanessa annabella. Y gair arall am fantell ydy "clogyn".
Pan fo'r tymheredd oddeutu 90 F mae'r cylch bywyd yn cymryd tua 16 diwrnod. Pan fo'n 65 F yna fe all gymeryd misoedd i'r wyau ddeor. Pan fo'r tymheredd yn gyson e.e. ystafell mewn ysgol, mae'n cymryd 3 - 5 diwrnod i ddeor. Maint grisial o siwgwr ydy'r ŵy, lliw gwyrdd. Gyda chwydd wydr gellir gweld y ceuad ar yr ŵy - ble mae'r siani flewog am ymddangos. Ar ôl 7 - 11 diwrnod mae'n troi'n chwiler a 7 - 11 diwrnod arall cyn ymddengys y glöyn byw.
2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf.
Digwyddiadau hanesyddol
[golygu | golygu cod]”Hafau Mantell Dramor”
[golygu | golygu cod]- 1879:
Ar y 14 Mehefin 1879 yn Wetzikon, Canton Zürich gwelwyd cwmwl enfawr (un cilometr o hyd) o'r gloynnod hyn yn yr awyr. Cymerodd ddwyawr i'r cwmwl basio.[3]
- 1994:
Ar yr 8fed Awst 1994 cofnododd rhywun a oedd ar fordaith yn y "Southwestern Approaches" dri glöyn byw - mentyll tramor - yn hedfan dros y tonnau. Mae'r fantell dramor yn ddiarhebol am ei allu i deithio pellteroedd meithion ac ar adegau o'r math caiff ei hel, glocwedd o gwmpas gwasgedd uchel, o Affrica i'r môr cyn cyrraedd glannau Cymru. Cafwyd cofnodion yn Nhywyddiadur Llên Natur o'r gloÿnnod yn cyrraedd ein glannau ychydig ar ôl hyn.[1]
- 2009:
Erbyn canol Mai eleni (2009), nid oeddwn wedi gweld yr un o'r gloÿnnod mawr praff yma yn yr ardd ers dwy flynedd. Ond dyma lanio yn Ffrainc ar wyliau a gweld rhif y gwlith ohonynt yn y dolydd o un pen y wlad i'r llall. Ai cenhedlaeth leol oedd y rhain ynteu mewnfudwyr? Cyrraedd yn ôl o Ffrainc ddechrau mis Mehefin a'r stori'n dew ary radio ac ymysg naturiaethwyr am y mentyll tramor yma hefyd - ia, roedden nhw wedi cyrraedd Cymru fach yn f'absenoldeb.
Y tywydd ffafriol o gwmpas y 26ain o'r mis oedd yn gyfrifol, a'u magwrfa oedd Mynyddoedd yr Atlas, Moroco, lle bu'n cenhedlu yn arbennig o lwyddiannus eleni yn ôl y son. Soniodd rhai ar wyliau yn y wlad honno am "filiynau" o loÿnnod yn symud dros ffrynt o 100Km. Dyma ymfudiad mwyaf y fantell dramor i Brydain erioed meddai un arbenigwr. Cafodd Rhys Jones "gannoedd" yn Aberdaron, a gwelodd Twm Elias dri wrth y Twll Du yng Nghwm Idwal, ymhell o'u cynefin arferol. [2]
- 2019:
Cawod enfawr o fentyll tramor yn cael eu nodi dros y gogledd ar y cyfryngau cymdeithsol mewn mannau amrywiol ddechrau Awst[4] yn dilyn y pylsiad o dywydd eithriadol o gynnes o’r Sahara ddiwedd mis Gorffennaf. Nododd y Guardian This “painted lady summer” is the most significant since 2009, when 11m arrived in Britain.[3]
"Plaoedd" mentyll tramor
[golygu | golygu cod]Mae'r niferoedd o fentyll tramor yn amrywio'n fawr yng Nghymru rhwng bron ddim yn cael eu cofnodi, ambell un, nifer dda ac weithiau 'pla' le maen nhw'n cael eu gweld ymhobman, ac yn cael sylw yn y cyfryngau poblogaidd. Cyfrifwyd 5 mlwyddyn o'r fath yn Nhywyddiadur Llên Natur: 2019, 2009, 1980, efallai 1912, ac 1879. Roedd yna niferoedd uwch nag arfer yn 1978, 1976 a 1931[5]
Tiriogaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r V. cardui yn un o'r gloynnod byw mwyaf poblog. Ceir hyd iddo ym mhob cyfandir ar wahân i Antarctica a De America.
Bwyd
[golygu | golygu cod]Ymhlith bwyd y siani flewog mae teulu'r Asteraceae gan gynnwys: Cirsium, Carduus,Centaurea, Arctium, Helianthus, ac Artemisia.[6] Mae naturiaethwyr wedi cofnodi dros 300 o fwydydd gwahanol. Yn yr ystafell ddosbarth, y bwyd gorau i'w ddefnyddio ydy paced o hadau blodau haul - y math sy'n cael ei ddefnyddio fel bwyd adar. Dylid rhoi'r rhain i'w socian mewn dŵr am 8 awr cyn eu gosod ar wyneb o bridd. Y dail sy'n cael ei fwyta ac nid yr hedyn caled.
Ffenoleg
[golygu | golygu cod]Gan fod presenoldeb y fantell dramor yng Nghymru yn dibynnu i raddau helaeth ar fewnfydwyr o dde Ewrop a gogledd Affrica mae ei ffenoleg yn dibynnu felly ar yr amodau tywydd sydd y caniatáu iddyn nhw wneud y daith (yn ogystal â'i ffenoleg yn eu gwledydd genedigol).
Mae'r anterth hafol a welir yn y graff i'w ddisgwyl ond mae cofnodion cynnar iawn (Chwefror) yn dangos nad yw patrwm eu hymddangosiad yn syml.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell dramor yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Bwletin Llên Natur; Rhifyn 67; Medi 2013.
- ↑ Grwp Facebook Cymuned Llên Natur
- ↑ Bwletin Llên Natur 152 (yn y wasg 29 Awst 2020)
- ↑ Vanessa cardui, Butterflies of Canada