Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Mario Del Monaco

Oddi ar Wicipedia
Mario Del Monaco
Ganwyd27 Gorffennaf 1915 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1982 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Ysbyty Umberto I, Mestre, Mestre Edit this on Wikidata
Man preswylLancenigo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Alma mater
  • Conservatorio Statale di Musica "Gioachino Rossini" Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mariodelmonaco.net Edit this on Wikidata

Tenor operatig o'r Eidal oedd Mario Del Monaco (27 Gorffennaf 1915 - 16 Hydref 1982).[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganed Del Monaco yn Fflorens i deulu cerddorol bonheddig. Ei rieni oedd Ettore Del Monaco a Flora Del Monaco. Fel bachgen ifanc, astudiodd y ffidil ond roedd ganddo angerdd i ganu. Graddiodd o Gonservatoire Rossini yn Pesaro,[2] lle cyfarfu (a fu'n canu gyda) Renata Tebaldi am y tro cyntaf. Roedd ei fentoriaid cynnar fel canwr yn cynnwys Arturo Melocchi, ei athro yn Pesaro, a Maestro Raffaelli, a oedd yn cydnabod ei dalent ac a fu'n gymorth iddo i lansio ei yrfa.

Dechreuodd gyrfa Del Monaco ym 1939 gyda rhan yn opera Pietro Mascagni Cavalleria rusticana yn Pesaro. Daeth ei rôl fawr gyntaf ym mis Rhagfyr 1940 yn chware rhan Pinkerton o Madama Butterfly yn Theatr Puccini, Milan.[3] Canodd yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1946, ymddangosodd yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden am y tro cyntaf. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, daeth yn enwog nid yn unig yn Llundain ond hefyd ar draws y byd operatig am ei lais pwerus a'i arddull actio arwrol.

Canodd Del Monaco yn Opera Metropolitan Efrog Newydd o 1951 i 1959,[4] gan fwynhau llwyddiant arbennig mewn rhannau dramatig Verdi fel Radamès yn Aida. Sefydlodd ei hun yn fuan fel un o bedwar seren o denoriaid Eidalaidd a gyrhaeddodd eu hanterth yn y 1950au a'r 60au, gyda Giuseppe Di Stefano, Carlo Bergonzi a Franco Corelli. Rolau nodweddiadol Del Monaco yn ystod y cyfnod hwn oedd rolau'r teitl yn opera Umberto Giordano Andrea Chénier ac opera Verdi Otello. Aeth i'r afael ag Otello am y tro cyntaf ym 1950 a pharhaodd i fireinio ei ddehongliad drwy gydol ei yrfa. Dywedir iddo ganu Otello 427 o weithiau. Fodd bynnag, mae'r llyfr a gyhoeddwyd gan Elisabetta Romagnolo, Mario Del Monaco, Monumentum aere perennius, Azzali 2002, yn rhestru dim ond 218 ymddangosiad ganddo fel Otello, sy'n ffigur mwy realistig. Er mai Otello oedd ei rôl orau, drwy gydol ei yrfa, canodd Del Monaco nifer o rolau eraill gyda chlod mawr, er enghraifft:

Gwnaeth Del Monaco ei recordiadau cyntaf ym Milan ym 1948 ar gyfer cwmni recordio HMV. Yn ddiweddarach, bu'n bartner i Renata Tebaldi mewn cyfres hir o operâu Verdi a Puccini a recordiwyd ar gyfer Decca. Ar yr un label roedd recordiad 1969 o Fedora Giordano, gyferbyn â Magda Olivero a Tito Gobbi.

Ym 1941 priododd Rina Filipini, bu iddynt dau fab. Mae eu mab Giancarlo Del Monaco yn gyfarwyddwr opera a rheolwr theatr enwog. Mae ei nith, Donella Del Monaco, soprano, yn canu gyda'r band roc blaengar Eidalaidd Opus Avantra.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Yn 1975 ymddeolodd Del Monaco o'r llwyfan. Bu farw ym Mestre o ganlyniad i neffritis ym 1982. Yn briodol, claddwyd y tenor yn ei wisg lwyfan o'r opera Otello yn Cimitero Centrale di Pesaro.[5]

Discograffi

[golygu | golygu cod]

Recordiadau stiwdio ar gyfer Decca

[golygu | golygu cod]

Pob un mewn stereo oni nodir yn wahanol.

[Cyfansoddwr - Opera (blwyddyn recordio) - cantorion eraill - arweinydd.] [6]

  • Bellini – Norma (1967) – Souliotis, Cossotto, Cava – Varviso.
  • Bizet – Carmen (1963) – Resnik, Sutherland, Krause – Schippers.
  • Boito – Mefistofele (1959) – Tebaldi, Siepi – Serafin.
  • Catalani – La Wally (1968) – Tebaldi, Cappuccilli, Diaz – Cleva.
  • Cilea – Adriana Lecouvreur (1961) – Tebaldi, Simionato, Fioravanti – Capuana.
  • Giordano – Andrea Chenier (1957) – Tebaldi, Bastianini – Gavazzeni.
  • Giordano – Fedora (1969) – Olivero, Gobbi – Gardelli.
  • Leoncavallo – Pagliacci (1960) – Tucci, MacNeil, Capecchi – Molinari-Pradelli.
  • Mascagni – Cavalleria Rusticana (1953, mono) – Nicolai, Protti – Ghione.
  • Mascagni – Cavalleria Rusticana (1960) – Simionato, MacNeil, Satre – Serafin.
  • Mascagni – Cavalleria Rusticana (1966) – Souliotis, Gobbi – Varviso.
  • Ponchielli – La Gioconda (1957/8) – Cerquetti, Simionato, Bastianini, Siepi – Gavazzeni.
  • Puccini – Il Tabarro (1962) – Tebaldi, Merrill – Gardelli.
  • Puccini – La fanciulla del West (1958) – Tebaldi, MacNeil, Tozzi – Capuana.
  • Puccini – Tosca (1959) – Tebaldi, London – Molinari-Pradelli.
  • Puccini – Turandot (1955) – Borkh, Tebaldi – Erede.
  • Puccini – Manon Lescaut (1954) – Tebaldi, Corena – Molinari-Pradelli.
  • Verdi – Aida (1952, mono) – Tebaldi, Stignani, Protti – Erede.
  • Verdi – Il Trovatore (1956) – Tebaldi, Simionato, Savarese – Erede.
  • Verdi – La Forza del Destino (1955) – Tebaldi, Bastianini, Siepi, Simionato, Corena – Molinari-Pradelli.
  • Verdi – Otello (1954) – Tebaldi, Protti – Erede.
  • Verdi – Otello (1961) – Tebaldi, Protti – Karajan.
  • Verdi – Requiem Mass (1965) – Crespin, Resnik, van Mill – Ansermet.
  • Verdi – Rigoletto (1954, mono) – Gueden, Simionato, Protti, Siepi – Erede.

Cyfansoddwr - Opera (blwyddyn a lleoliad y perfformiad) - cantorion eraill - arweinydd - label]

  • Bizet – Carmen (1959, Moscow) – Archipova, Lisitsian – Melik-Pashayev – Myto.
  • Giordano – Andrea Chenier (1955, Milan) – Callas, Protti, Amadini – Votto – Opera d'Oro.
  • Giordano – Andrea Chenier (1961, Tokyo) – Tebaldi, Protti – Capuana – Opera d'Oro.
  • Leoncavallo – Pagliacci (1959, Moscow) – L. Maslennikova, Ivanov – Nebolsin – Myto.
  • Leoncavallo – Pagliacci (1959, New York) – Amara, Warren, Sereni – Mitropoulos – Walhall.
  • Leoncavallo – Pagliacci (1961, Tokyo) – Tucci, Protti – Morelli – Gala.
  • Mascagni – Cavalleria Rusticana (1961, Tokyo) – Simionato – Morelli – Gala.
  • Verdi - Aida (1961 Tokyo) - Tucci, Simionato - Franco Capuana - Gala 100.507
  • Verdi – Ernani (1956, New York) – Milanov, Warren, Siepi – Mitropoulos – Andromeda, Myto.
  • Verdi – Ernani (1957, Florence) – Cerquetti, Bastianini, Christoff – Mitropoulos – Opera d'Oro.
  • Verdi – Ernani (1960, Naples) – Roberti, Bastianini, Rossi-Lemeni – Previtali – Andromeda.
  • Verdi – La Forza del Destino (1953, Florence) – Tebaldi, Protti, Siepi, Barbieri, Capecchi – Mitropoulos – Accademia, Foyer.
  • Verdi – Otello (1955, New York) – Warren, Tebaldi – Stiedry – Walhall.
  • Verdi – Otello (1958, New York) – Warren, de los Angeles – Cleva – Myto.
  • Verdi – Otello (Tokyo, 1959) – Gobbi, Tucci – Erede – Opera d'Oro.

Albymau cyfansawdd

[golygu | golygu cod]
  • Mario del Monaco: Decca Recitals 1952–1969 – 5 CDs, recordiad stiwdio - arias opera, cerddoriaeth gysegredig, caneuon Napoli, Sbaeneg a Saesneg.
  • Mario del Monaco: Grandi Voci – DECCA, 19 trac stiwdio - detholiad ardderchog o'i ariasau gorau (Verdi a Puccini yn bennaf, ond hefyd yn cynnwys 'Vesti la giubba') ynghyd â thair o ganeuon poblogaidd (gan gynnwys 'Granada').
  • The Singers: Mario del Monaco – DECCA, 17 trac - arias opera yn bennaf (Puccini, Wagner, Bellini, Verdi) ynghyd â rhai darnau poblogaidd / sanctaidd.
  • Mario del Monaco: Opera Arias – Testament, 23 trac - casgliad o recordiadau mono cynnar.
  • Mario del Monaco: Granada: Canzoni e Serenate – Replay, 14 trac
  • Mario del Monaco: Historical Recordings 1950–1960 – Gala, 23 trac – recordiadau byw .
  • Mario Del Monaco: Live – IDIS, 8 trac - pob un yn recordiad byw, 1951–57; yn bennaf arias o Verdi (Ernani, Il Trovatore, La Forza del Destino, Aida) yn ogystal ag aria Pollione allan o Norma Bellini.

Fidiograffi

[golygu | golygu cod]

Recordiadau fideo a ryddhawyd ar DVD; Perfformiadau byw oni nodir yn wahanol.[7]

[Cyfansoddwr - Opera (blwyddyn a lleoliad y perfformiad) - cantorion eraill - arweinydd - label.]

  • Giordano – Andrea Chenier (1955, Milan, ffilm) – Stella, Taddei – A. Questa – RAI Milano – Bel Canto Society.
  • Giordano – Andrea Chenier (1961, Tokyo) – Tebaldi, Protti – Capuana – Vai.
  • Leoncavallo – Pagliacci (1961, Tokyo) – Tucci, Protti – Morelli – Vai.
  • Verdi – Aida (1961, Tokyo) – Tucci, Simionato, Protti – Capuana – Vai.
  • Verdi – Il Trovatore (1958, Milano, ffilm) – Gencer, Bastianini, Barbieri – Previtali – Hardy Classics.
  • Verdi – Otello (Rome, 1958, ffilm) – Capecchi, Carteri – Serafin – Hardy Classics.
  • Verdi – Otello (Tokyo, 1959) – Gobbi, Tucci – Erede – Vai.
  • Mario del Monaco at the Bolshoi – Carmen, Pagliacci (Moscow, 1959) – Maslennicova, Arkhipova, Lisitsian – Tieskovini, Melik-Pashaev – Vai.

Mae ei lais hefyd i'w glywed ar draciau sain nifer o ffilmiau poblogaidd gan gynnwys The Untouchables (1987), Wall Street (1987) ac Action Jackson (1988).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]