Matthew Rhys
Matthew Rhys | |
---|---|
Ganwyd | Matthew Rhys Evans 8 Tachwedd 1974 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
Priod | Keri Russell |
Partner | Keri Russell |
Gwobr/au | Gwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama |
Actor Cymreig yw Matthew Rhys Evans sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw proffesiynol Matthew Rhys (ganwyd 8 Tachwedd 1974).[1][2] Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Kevin Walker yn y ddrama deledu Americanaidd Brothers & Sisters, Phillip Jennings yn The Americans ac fel Dylan Thomas yn y ffilm The Edge of Love.
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Rhys yng Nghaerdydd, yn fab i Glyndwr, prifathro oedd yn hanu o Bennal, a'i wraig Helen, athrawes o Sir Benfro. Treuliodd ei blentyndod yn y brifddinas, yn mynychu ysgolion Cymraeg, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn 17 mlwydd oed, ar ôl chwarae Elvis Presley mewn sioe gerdd yn yr ysgol, fe'i derbyniwyd i'r Royal Academy of Dramatic Art (RADA) yn Llundain. Wedyn, yn 1993 fe'i gwobrwywyd gydag ysgoloriaeth Patricia Rothermere. Mynychodd chwaer Rhys, Rachel, RADA ar yr un pryd ag ef, ac mae hi bellach yn gweithio fel newyddiadurwraig ddarlledu i'r BBC.
Ei gysylltiadau â Phatagonia
[golygu | golygu cod]Yn y flwyddyn 2000, ymwelodd Rhys â Phatagonia er mwyn darganfod capeli Cymreig ac er mwyn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan drigolion y wlad.[3] Tra yno, cafodd afael ar gopi o ddyddiadur y Cymro John Murray Thomas a aeth i Batagonia ar ddiwedd y 19g wrth i nifer o Gymry allfudo i Batagonia. Yn 2005 dychwelodd Rhys i Batagonia am yr eildro ar ôl iddo dderbyn gwahoddiad wrth ddisgynyddion y Rifleros i olrhain y daith a wnaed gan y Cymry flynyddoedd ynghynt.
Yn 2010, cyhoeddodd lyfr lluniau Patagonia: Croesi'r Paith yn seiliedig ar y profiad.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Am bron i ddeng mlynedd bu Matthew yn rhannu tŷ yn Llundain gyda'i gyd-actor Ioan Gruffudd,[4] a roedd yn was priodas iddo ym mhriodas Gruffudd..[5] Mae'r ddau yn noddwyr i Trust PA, elusen anafiadau i'r cefn.[6]
Ar 15 Gorffennaf 2008, urddwyd Matthew yn Gymrawd gan Brifysgol Aberystwyth.[7] Ar 8 Awst 2008 yn Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008, fe'i urddwyd yn aelod o'r Orsedd [8] am ei gyfraniad i'r Gymraeg a Chymru. Ei enw barddol yn yr Orsedd yw Matthew Tâf. Yn Awst 2009, ymddangosodd Matthew ar lwyfan gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol.[9]
Mae Matthew wedi bod mewn perthynas gyda Keri Russell, ei gyd-seren ar The Americans ers 2013.[10][11] Ganwyd eu plentyn cyntaf gyda'i gilydd ar ddiwedd Mai 2016.[12][13]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Film
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1999 | Titus | Demetrius | |
1999 | Whatever Happened to Harold Smith? | Ray Smith | |
2001 | The Lost World | Edward Malone | |
2001 | Very Annie Mary | Nob | |
2002 | Deathwatch | Cpl. Doc Fairweather | |
2002 | The Abduction Club | James Strang | |
2002 | Shooters | Eddie | |
2003 | P.O.W | Alfie Harris | |
2003 | Columbo Likes the Nightlife | Justin Price | |
2003 | Y Mabinogi | Lleu Llaw Gyffes | |
2004 | Fakers | Nick Edwards | |
2006 | Love and Other Disasters | Peter Simon | |
2006 | Beau Brummell: This Charming Man | Lord Byron | |
2007 | Virgin Territory | Count Dzerzhinsky | |
2008 | The Edge of Love | Dylan Thomas | |
2009 | The Think Tank | Marc | Ffilm fer |
2010 | Patagonia | Mateo | |
2011 | Everything Carries Me To You | Damien | Ffilm fer |
2012 | The Scapegoat | John Standing/Johnny Spence | |
2015 | En mai, fais ce qu'il te plait | Percy | |
2015 | Burnt | Reece | |
2017 | Jungle Book: Origins | John Lockwood | |
2019 | A Beautiful Day in the Neighborhood | Lloyd Vogel | |
2019 | The Report | Gohebydd gyda'r New York Times |
Teledu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2000 | A History of Britain | N/A | Rhai penodau |
2006–2011 | Brothers & Sisters | Kevin Walker | 109 pennod |
2012 | The Mystery of Edwin Drood | John Jasper | 2 bennod |
2013 | Death Comes to Pemberley | Mr Darcy | 3 pennod |
2013–present | The Americans | Philip Jennings | 39 pennod Enwebwyd— Gwobr Deledu "Critics' Choice" am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama (2013–15) Enwebwyd—Gwobr "Television Critics Association" am Gyflawniad Unigol mewn Drama(2013–15) |
2015 | The Bastard Executioner | Gruffudd y Blaidd | 4 pennod |
2015 | Archer | Lloyd Llewellyn | Pennod: "Achub y Morfilod" |
2015 | The Bastard Executioner | Gruffudd y Blaidd / The Wolf | 4 pennod |
2016–2018 | The Wine Show | Ei hun (cyd-gyflwyno) | |
2017 | Girls | Chuck Palmer | Pennod: "American Bitch" |
2017 | Snowdonia 1890 | N/A | |
2018 | Down the Caravan | Dai | Ffilm deledu |
2018 | Death and Nightingales | Billy | 3 pennod |
2019 | Infinity Train | Aloysius / Alrick (llais) | 2 bennod |
2019 | BoJack Horseman | Justin Kenyon (llais) | Pennod: "A Quick One, While He's Away" |
2019 | Carpool Karaoke: The Series | Ei hun (cyd-gyflwyno) | Cyfres 2, pennod 17 |
2020 | Perry Mason | Perry Mason | Hefyd yn gynhyrchydd gweithredol |
Gwobrau ac enwebiadau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Gwobr | Categori | Gwaith enwebwyd | Canlyniadau |
---|---|---|---|---|
2013 | Gwobr Teledu y Critics' Choice | Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama | Enwebwyd | |
Gwobr TCA | Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama | Enwebwyd | ||
2014 | Gwobr Teledu y Critics' Choice | Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama | Enwebwyd | |
Gwobr TCA | Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama | Enwebwyd | ||
2015 | Gwobr Teledu y Critics' Choice | Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama | Enwebwyd | |
Gwobr TCA | Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama | Enwebwyd | ||
2016 | Gwobr Primetime Emmy | Gwobr Primetime Emmy am Brif Actor Eithriadol mewn Cyfres Ddrama | Enwebwyd | |
2017 | Gwobr Teledu y Critics' Choice | Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama | I'w benderfynu | |
Gwobr Satellite | Gwobr Satellite am Actor Gorau – Cyfres Ddrama Deledu | I'w benderfynu | ||
2018 | Gwobr Emmy | Gwobr Emmy am Brif Actor Eithriadol mewn Cyfres Ddrama | Buddugol[14] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Matthew Rhys yn IMDb Adalwyd ar 31-10-2010
- ↑ Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd; 8 Tachwedd 2014
- ↑ Matthew Rhys’ new book, ‘Patagonia gets under your skin’ Wales Online. 20-11-2010. Adalwyd ar 04-12-2010
- ↑ "MyBrent.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 2021-02-20.
- ↑ icWales
- ↑ "Welsh actors help spinal charity". bbc.co.uk. 26 Hydref 2002. Cyrchwyd 1 Ebrill 2014.
- ↑ Aberystwyth News Online
- ↑ "Hollywood star Rhys joins druids"
- ↑ "Performing with National Youth Orchestra". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-26. Cyrchwyd 2016-12-12.
- ↑ Gillian Telling (26 Rhagfyr 2013). "Keri Russell and Matthew Rhys: Are They Dating?". People. Cyrchwyd 2015-09-16.
- ↑ John Ortved (30 Ebrill 2015). "Oliver Jeffers's Art of Bearing Witness". The New York Times. Cyrchwyd 2015-09-16.
- ↑ "Keri Russell Gives Birth, Welcomes First Child With 'Americans' Costar Matthew Rhys!". usmagazine.com. 30 Mai 2016. Cyrchwyd 2016-05-30.
- ↑ "Keri Russell Reveals Name and Sex of Her First Child with Matthew Rhys – and Says the Baby Is Doing 'So Good'". celebritybabies.people.com. 1 Gorffennaf 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-01. Cyrchwyd 2016-07-23.
- ↑ "Emmy winners 2018: the full list". theguardian.co.uk. 18 Medi 2018. Cyrchwyd 18 Medi 2018.