Modest Mussorgsky
Modest Mussorgsky | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1839 (yn y Calendr Iwliaidd) Karevo, Pskov |
Bu farw | 16 Mawrth 1881 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd, libretydd, person milwrol |
Adnabyddus am | Boris Godunov, Pictures at an Exhibition, Night on Bald Mountain |
Arddull | drama, cerddoriaeth glasurol, opera |
llofnod | |
Cyfansoddwr Rwsiaidd oedd Modest Petrovich Mussorgsky (hefyd Musorgsky, Moussorgsky, Rwseg: Модест Петрович Мусоргский, sef Modest Petrovič Musorgskij) (21 Mawrth, 1839 – 28 Mawrth, 1881), un o'r grŵp o gyfansoddwyr a adnabyddir fel 'Y Pump' a adfywiodd gerddoriaeth Rwsia yn y cyfnod Rhamantaidd. Ceisiai ddarganfod arddull cerddorol unigryw Rwsiaidd, yn aml trwy fynd yn fwriadol yn groes i gonfensiynau cerddoriaeth glasurol Ewrop.
Cafodd ei eni mewn pentref ger Toropets (yn Oblast Tver heddiw).
Ysbrydolwyd nifer o'i weithiau gan hanes Rwsia a'i llên gwerin ac mae cenedlaetholdeb Rwsiaidd yn elfen amlwg yn ei waith, sy'n cynnwys yr opera Boris Godunov, 'Noson ar Y Mynydd Moel', a'r suite i'r piano Lluniau mewn Arddangosfa (Pictures at an Exhibition).
Bu farw yn St Petersburg.