Niwron
Enghraifft o'r canlynol | math o gell |
---|---|
Math | cydadran neu elfen fiolegol, neural cell |
Rhan o | system nerfol, meinwe nerfol |
Yn cynnwys | dendrite, axon, myelin sheath, perikaryon, cnewyllyn cell, axon terminus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Celloedd llwydaidd neu gochlyd a gaiff eu cynhyrfu'n drydanol yn y system nerfol yw niwronau (hefyd nerfgell), sy'n prosesu a throsglwyddo gwybodaeth.
Gwybodaeth
[golygu | golygu cod]Niwronau yw cyfansoddyn craidd y brif system nerfol, gan gynnwys yr ymennydd a madruddyn y cefn o'r fertebratau neu'r llinyn nerfol torrol o'r infertebratau, a'r system nerfol berifferol.
Mae nifer o wahanol fathau o niwronau yn bodoli: mae niwronau synhwyraidd (neu afferol) yn ymateb i gyffyrddiad, sain, golau, a nifer o ysgogiadau eraill sy'n effeithio'r organau synhwyrol ac yn anfon signalau i fadruddyn y cefn a'r ymennydd. Mae niwronau echddygol yn derbyn arwyddion o'r ymennydd a'r madruddyn ac yn achosi cyfangiad y cyhyrau ac yn effeithio chwarennau. Mae rhyngniwronau yn cysylltu'r niwronau gyda niwronau eraill o fewn y madruddyn.