Nos Galan
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl, gwylnos |
---|---|
Math | gŵyl |
Olynwyd gan | Dydd Calan |
Yn cynnwys | parti Nos Galan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nos Galan yw'r enw ar gyfer 31 Rhagfyr, noson olaf y flwyddyn yng Nghalendr Gregori. Mewn nifer o wledydd, bydd pobl yn cynnal noson gymdeithasol ar Nos Galan sy'n cyrraedd ei huchafbwynt gyda phawb yn cyfarch a dymuno blwyddyn newydd dda i'w gilydd am hanner nos.
Samoa, Tonga a Critimati (Ynys Nadolig), rhan o Ciribati, yw'r lleoedd cyntaf i groesawu'r Flwyddyn Newydd tra bod Samoa America ac Ynys Baker yn Unol Daleithiau America ymhlith yr olaf.[1]
Mae gan wledydd o amgylch y byd wahanol draddodiadau ac arferion ar gyfer nodi neu groesawu'r flwyddyn newydd. Mewn nifer o ddathliadau, ac yn arbennig dinasoedd, bydd hanner nos yn cael ei ddynodi gyda thanio tân gwyllt.
Cynhelir Rasys Nos Galan, ras redeg 5 km, yn Aberpennar yng Nghwm Cynon bob blwyddyn. Mae'r ras yn dathlu bywyd a gorchestion y rhedwr Guto Nyth Brân.
Mae rhai rhannau o Gymru yn dal i ddathlu'r Hen Galan ar 12-13 Ionawr, yn unol â Chalendr Iŵl, sef y calendr oedd yn cael ei ddefnyddio tan iddo gael ei ddisodli gan Galendr Gregori yn 1752.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Emily Allen (31 December 2016). "New Year's Eve: When is it 2017 around the world?". The Telegraph. Cyrchwyd 31 December 2016.