Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Oil for Drugs

Oddi ar Wicipedia
Oil for Drugs
Enghraifft o'r canlynolSgandal Edit this on Wikidata

Achos amhureddu yn erbyn y meddyg Eidalaidd Carlos Santuccione a nifer o'i gyd-droseddwyr oedd Oil for Drugs. Dechreuodd yr achos yn 2003. Cyhuddwyd Santuccione o weini cynnyrch amhureddu i chwaraewyr amatur a phroffesiynol, er mwyn gwella eu perfformiad, yn ogystal â bod yn ymwneud gyda rhwydwaith amhureddu ar draws yr Eidal.[1]

Amserlen

[golygu | golygu cod]

Marwolaeth seiclwr amatur

[golygu | golygu cod]

Catalydd dechrau'r ymchwiliad oedd marwolaeth amheus seiclwr amatur yn yr Eidal. Bu farw'r seiclwr, sydd heb gael ei enwi, ym mis Rhagfyr 2002 gan arwain at ymchwiliad gan yr awdurdodau Eidalaidd.[2] Dechreuwyd a chydlynwyd yr ymchwiliad gan Erlynydd y Wladwriaeth.

Gweithrediad yr heddlu

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Grŵp Gwrth-Narcotig yr Eidal (NAS) ymchwiliad a oedd i gynnwys tapio ffonau Santuccione a gosod camera cudd yn ei swyddfa. Ar 3 Mawrth 2004, recordiwyd galwad ffôn rhwng Santuccione a'r seiclwr proffesiynol Danilo Di Luca, a chynghorodd Santuccione ef i roi pigiad o EPO iddo'i hun cyn ras Milan-Sanremo.[3] Dywedodd Di Luca y buasai'n ymweld â'r meddyg y prynhawn hwnnw ynghyd a'i gyd-aelod tîm Alessandro Spezialetti. Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw dangosodd gwyliadwriaeth fideo swyddfa Santuccione ef yn paratoi dau chwistrell tafladwy cyn gadael ei swyddfa i lle yr oedd Di Luca a Spezialetti yn aros tu allan. Anfonodd cyd-aelod tîm arall Di Luca a Spezialetti, Eddy Mazzoleni, negeseuon SMS i Santuccione ar yr un adeg yn cyfeirio at Di Luca a defnydd hormon.[4]

Yn dilyn y gwyliadwriaeth yma, fe wnaeth sgwad yr NAS gyrchoedd cydamserol yng ngwestai'r timau a chartrefi rhai o'r reidwyr ar noson 24 Mai 2004. Roedd y cyrchoedd yn ymwneud â wyth reidiwr, pob un yn gleient i Santuccione, o chwe tîm gwahanol, sef:[5]

Ni ganfyddwyd unrhyw sylweddau anghyfreithlon.[5]

Roedd cyrch yr NAS yn rhan o gyrch llawr mwy a gynhaliwyd mewn 28 dinas Eidalaidd yn ymwneud â 138 o chwaraewyr amatur a phroffesiynol, meddygon ac eraill dan drwgdybiaeth o ddelio neu ddefnyddio amhureddu mewn nifer o chwaraeon. On ddim ond dau berson sydd a gafodd eu arestio hyd Medi 2004, roedd un o'r rhain yn fferyllydd.[6]

Gwaharddiadau

[golygu | golygu cod]

Cafodd Danilo Di Luca ei wahardd am dri mis oherwydd ei ymglymiad yn yr achos.[3] Ar 18 Rhagfyr 2007 cafodd y meddyg, Santuccione, ei wahardd am oes gan Bwyllgor Olympiadd Cenedlaethol yr Eidal (CONI) oherwydd ei ymglymiad yn yr achos, wedi iddo gael ei wahardd am gryn gyfnod ynghynt am drosedd amhureddu.[7] Ar 26 Hydref 2007 cafodd y llofnaidwr polyn Giuseppe Gibilisco ei wahardd am ddwy flynedd am ei ymrwymiad ef.[8] Ar 8 Ebrill 2008 cafodd Mazzoleni ei wahardd am ddwy flynedd oherwydd ei ymglymiad yn yr achos.[9]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  1.  The Sport of the Doctors. Daily Peloton (2006-10-27).
  2.  Carlo Santuccione's poisonous legacy: The “Oil for Drugs” doping affair. Cycling Fans Anonymous (2007-10-18).
  3. 3.0 3.1  Di Luca wins and loses in CAS decision. Cycling News (2008-05-01).
  4.  Di Luca & Mazzoleni to appear before CONI. Cycling News (2007-06-29).
  5. 5.0 5.1  NAS blitz nets nada. Cycling News (2004-05-27).
  6.  NAS raid Giro again but come up empty handed. Cycling News (2004-05-26).
  7.  Santuccione banned for life. Cycling News (2007-12-18).
  8.  Disgraced Italian pole vaulter banned for two years. Eurosport (2007-10-26).
  9.  Mazzoleni gets two year ban. Cycling News (2008-04-09).