Pawb a'i Farn
Pawb a'i Farn | |
---|---|
Genre | Materion cyfoes, Gwleidyddiaeth |
Cyflwynwyd gan | Betsan Powys (2020-) Dewi Llwyd (1998-2019) Huw Edwards (1994-1998) Gwilym Owen (1993-1994) |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 1 awr (yn cynnwys hysbysebion) |
Cwmnïau cynhyrchu |
BBC Cymru |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Rhediad cyntaf yn | Mai 1993- |
Rhaglen deledu ar S4C yn trafod materion cyfoes yw Pawb a'i Farn. Mae'r sioe yn teithio i wahanol leoliadau yng Nghymru gan wahodd cynulleidfa leol i osod cwestiynau i banel o wleidyddion a phobl amlwg. Cychwynnodd y rhaglen ym mis Mai 1993 a chynhyrchir y rhaglen gan BBC Cymru i S4C. Betsan Powys yw'r cyflwynydd presennol.
Mae'r rhaglen yn trafod pynciau llosg y dydd yn ogystal â materion lleol. Gwahoddir pedwar panelydd i gymerid rhan, wedi eu dewis i adlewyrchu ystod o safbwyntiau gwleidyddol. Yn wahanol i raglenni tebyg fel Question Time, i ddechrau roedd y cyflwynydd yn arwain y drafodaeth ar ei draed o flaen y gynulleidfa tra bod y panelwyr yn eistedd tu ôl i ddesg. Ers 2015 mae'r cyflwynydd wedi eistedd gyda'r panelwyr tu ôl i'r ddesg.
Cyflwynwyr
[golygu | golygu cod]Y cyflwynydd gwreiddiol oedd Gwilym Owen. Ar ddiwedd 1994 daeth Huw Edwards yn gyflwynydd am bedair blynedd gyn iddo basio'r awenau i Dewi Llwyd.[1] Darlledwyd sioe gyntaf Dewi o Amlwch yn 1998 a bu'n arwain y drafodaeth am 21 mlynedd. Cyflwynodd ei sioe olaf o Landudno ar 2 Tachwedd 2019, wythnos cyn etholiad cyffredinol 2019.[2] Wedi cyfnod y pandemig COVID-19 cychwynodd gyfres newydd ar 15 Gorffennaf 2020 gyda chyflwynydd newydd, Betsan Powys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dewi Llwyd. Pawb a'i Farn: Dyddiadur Dewi Llwyd. Y Lolfa.
- ↑ Dewi Llwyd: 'Dwi'n teimlo'n gryf am rai pethau' , BBC Cymru Fyw, 1 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 2 Tachwedd 2019.