Plerin
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 14,704 |
Pennaeth llywodraeth | Ronan Kerdraon |
Gefeilldref/i | Herzogenrath, Wronki, Cookstown |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 27.72 km² |
Uwch y môr | 105 metr, 0 metr, 143 metr |
Gerllaw | Gouët, Môr Udd, Q100388981 |
Yn ffinio gyda | Sant-Brieg, Ploufragan, Tremuzon, Pordic |
Cyfesurynnau | 48.5344°N 2.7708°W |
Cod post | 22190 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Plerin |
Pennaeth y Llywodraeth | Ronan Kerdraon |
Mae Plerin (Ffrangeg: Plérin) yn gymuned (Llydaweg: kumunioù; Ffrangeg: communes) yn Departamant Aodoù-an-Arvor (Ffrangeg: Département Côtes-d'Armor), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Sant-Brieg, Ploufragan, Tremuzon ac mae ganddi boblogaeth o tua 14,704 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Lleolir Marché du Porc Breton, yn Plerin, dyma lle nodi pris porc ar gyfer gwerthwyr ar draws Ffrainc.[1]
Enw
[golygu | golygu cod]Ceir y cofnod cynharaf i'r enw "Plerin" yn 1225, "Parrochia de Plerin" yn 1254, "Ecclesia de Plerin" oddeutu 1330,[2] "Ploerin" yn 1636.[3]
Daw'r enw Plerin o'r Lydaweg - ple- sef ffurf ar yr hen Lydaweg, plou ('plwyf' yn y Gymraeg, sydd, ei hun o'r Lladin plebs). Daw'r ail ran o enw person; Erin neu Eren,[2] sydd hefyd i'w ganfod yn merdeistrefi Plourin a hefyd Plourin-lès-Morlaix, yn Penn-ar-Bed.
Am resymau hyrwyddo twristiaeth, hyrwyddi'r y dref fel Plérin-sur-Mer, yn fynych, er nad oes cydnabyddiaeth swyddogol i hyn.
Llydaweg
[golygu | golygu cod]Ar ddechrau'r flwyddyn ysgol 2019, cofrestrwyd 46 o fyfyrwyr yn y ffrwd ddwyieithog gyhoeddus, Div yezh.
Pleidleisiodd cyngor y ddinas aelodaeth o Siarter iaith i gefnogi'r Lydweg, Ya d’ar brezhoneg ar 18 Rhagfyr 2017.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Oriel
[golygu | golygu cod]-
Traeth Martin
-
Ffwrn peli
-
Cofeb i beryglon y môr
-
Saint-Laurent