Prif Weinidog India
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | swydd gyhoeddus, prif weinidog |
---|---|
Rhan o | Union Council of Ministers of India |
Dechrau/Sefydlu | 15 Awst 1947 |
Deiliad presennol | Narendra Modi |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Enw brodorol | Prime Minister of India |
Gwladwriaeth | India |
Gwefan | http://pmindia.gov.in/ |
Yn ymarferol, Prif Weinidog India yw'r person â mwyaf o rym yn Llywodraeth India. Yn dechnegol, mae'r Arlywydd yn awdurdod uwch, ond swyddogaeth ddefodol sydd ganddo'n bennaf. Y Prif Weinidog, felly, sy'n arwain y Llywodraeth. Fel arfer, ef yw arweinydd y blaid neu glymblaid sydd â mwyafrif o aelodau'r Lok Sabha. Mae'n rhaid iddo fod yn aelod presennol o'r Lok Sabha neu'r Rajya Sabha, neu gael ei ethol o fewn chwe mis wedi cychwyn y swydd. Bu 15 Prif Weinidog hyd yma.