Prifodl
Gwedd
Y brif odl ydy prifodl, ac fe ddefnyddir y gair fel arfer i ddisgrifio rhan o bennill ble mae un sain yn cael ei ailadrodd. Fel arfer, mae'r brifodl ar ddiwedd llinell:
Wele rith fel ymyl rhod – o'n cwmpas
Campwaith dewin hynod;
Hen linell bell nad yw'n bod,
Hen derfyn nad yw'n darfod.
Y brifodl yma ydy "rhod", "hynod", "bod" a "darfod". Y prifardd Dewi Emrys bia'r englyn yma.
Ceir odlau mewnol hefyd: "llinell" a "bell" er enghraifft.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Odl
- Odl anghyflawn
- Proest yr odl
- Odl gudd
- Odl gyflawn (neu odl ddwbwl)
- Odl gyrch (neu odl fewnol)
- Patrwm odli