Prifysgol Glasgow
Gwedd
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Glasgow |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.8722°N 4.2881°W |
Prifysgol Glasgow (Gaeleg: Oilthigh Ghlaschu; Lladin: Universitas Glasguensis) yw'r bedwaredd prifysgol hynaf yn y gwledydd lle siaredir Saesneg ac mae'n un o'r bedair prifysgol hynaf yn yr Alban. Sefydlwyd hi yn 1451 a chaiff ei hystyried gan nifer o gyrff gwahanol yn un o'r 100 prifysgol gorau yn y byd.[1][2] Yn 2013, derbyniodd Glasgow ei safle uchaf yn y tablau rhagoriaeth, gan gyrraedd rhif 51 yn y byd a 9fed yn y DU - o ran Safleoedd Prifysgol y Byd QS.[3]
Cyn-fyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- David Daniel Davis (1777-1841), ffisegwr a meddyg
- David Livingstone (1813–1873), cenhadwr a fforiwr
- Syr Henry Campbell-Bannerman (1836–1908), gwleidydd
- John Buchan (1875–1940), nofelydd a gwleidydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ QS World University Rankings - 2012. Top Universities (2012-12-19). Adalwyd 2013-07-17.
- ↑ University of Glasgow: overview. Education UK.
- ↑ QS World University Rankings 2013 (27 Awst 2013).