Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Rawalpindi

Oddi ar Wicipedia
Rawalpindi
Ffordd Murree, Rawalpindi
Mathdinas, dinas â miliynau o drigolion, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,098,231 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserPakistan Standard Time Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRawalpindi Tehsil Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd5,286 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr508 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.6°N 73.1°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholRawalpindi Municipal Corporation Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Rawalpindi Edit this on Wikidata
Map

Dinas ar Wastadedd Potwar, talaith Punjab, gogledd Pacistan, ger y brifddinas Islamabad, yw Rawalpindi (Urdu: راولپنڈی). Rawalpindi ("Pindi" i bobl leol) yw lleoliad pencadlys milwrol Llu Arfog Pacistan a gwasanaethodd hefyd fel prifddinas y wlad wrth i ddinas newydd Islamabad gael ei chodi yn y 1960au. Mae'n gartref i sawl diwydiant a ffatri. Lleolir Maes Awyr Rhyngwladol Islamabad yn Rawalpindi ei hun, ac mae'n gwasanethu'r ddwy ddinas hynny. Gorwedd Rawalpindi yn nhalaith Punjab, 275 km (171 milltir) i'r gogledd-orllewin o Lahore. Hi yw canolfan weinyddol Ardal Rawalpindi. Poblogaeth Rawalpindi yw tua 3,039,550.

Ar 27 Rhagfyr 2007, lladdwyd Benazir Bhutto, cyn-Brif Weinidog Pacistan, gan derfysgwr ar ôl siarad mewn rali gan Plaid Pobl Pacistan mewn parc yng nghanol y ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
  • Dinas Pharwala
  • Haveli Sujaan Sigh
  • Parc Jinnah
  • Prifysgol Fatima Jinnah
  • Purana Qil'aa

Enwogion

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.