Reutlingen
Gwedd
Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, tref ardal mawr Baden-Württemberg |
---|---|
Poblogaeth | 117,547 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Thomas Keck, Jos Weiß |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Reutlingen |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 87.04 km² |
Uwch y môr | 382 metr |
Yn ffinio gyda | Pfullingen, Eningen unter Achalm |
Cyfesurynnau | 48.4833°N 9.2167°E |
Cod post | 72760, 72770, 72762 |
Pennaeth y Llywodraeth | Thomas Keck, Jos Weiß |
Dinas ym Maden-Württemberg, yr Almaen yw Reutlingen. Dyma brifddinas eponymaidd dosbarth Reutlingen. Yn Ebrill 2008 ei phoblogaeth oedd 109,828. Ceir yn Reutlingen ddiwydiant tecstiliau hirsefydlog, ynghyd â chyfleusterau peirianwaith, nwyddau lledr, a chynhyrchu dur. Mae un o'i strydoedd, Spreuerhofstrasse, yn enwog am ei bod yn stryd gulaf y byd (lled 31 cm).
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Lleolir Reutlingen oddeutu 35 km i'r de o brifddinas dalaith Baden-Württemberg, Stuttgart. Gorwedd yng nghornel de-orllewinol yr Almaen, ger y Jura Swabaidd, sef y rheswm y'i gelwir yn fynych 'Clwyd y Jura Swabaidd' (Almaeneg: Das Tor zur Schwäbischen Alb). Mae Afon Echaz, un o isafonydd Afon Neckar, yn llifo trwy ganol y ddinas.
Dinasoedd