Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Rhoslefain

Oddi ar Wicipedia
Rhoslefain
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangelynnin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.628497°N 4.106837°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yn ne Gwynedd yw Rhoslefain ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir yn ardal Meirionnydd ar briffordd yr A493 rhwng Llangelynnin, i'r gorllewin, a Llanegryn i'r dwyrain. Mae'n rhan o Gymuned Llangelynnin.

Mae Bae Ceredigion tua milltir i'r gorllewin o'r pentref. I'r gogledd mae cyfres o fryniau yn codi i gyfeiriaid Cader Idris.

Mae Rhoslefain yn blwyf eglwysig yn Esgobaeth Bangor. Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf hwnnw'n gorwedd yng nghwmwd Ystumanner.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato