Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Rhun ap Iorwerth

Oddi ar Wicipedia
Rhun ap Iorwerth
AS
Rhun ap Iorwerth yn 2021
Arweinydd Plaid Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
16 Mehefin 2023
DirprwySiân Gwenllian
Delyth Jewell
Rhagflaenwyd ganAdam Price
Llyr Huws Gruffydd (dros dro)
Aelod o'r Senedd
dros Ynys Môn
Deiliad
Cychwyn y swydd
2 Awst 2013
Rhagflaenwyd ganIeuan Wyn Jones
Mwyafrif9,166
Manylion personol
Ganed (1972-08-27) 27 Awst 1972 (52 oed)
Tonteg, Pontypridd
Plaid gwleidyddolPlaid Cymru
Plant3
CartrefLlangristiolus, Ynys Môn
ProffesiwnNewyddiadurwr
GwefanGwefan wleidyddol

Gwleidydd Plaid Cymru a chyn-newyddiadurwr o Gymro yw Rhun ap Iorwerth (ganed 27 Awst 1972)[1]. Rhun yw arweinydd Plaid Cymru ers 16 Mehefin 2023.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rhun yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf[2] yn fab i Edward Morus Jones a Gwyneth. Roedd ei dad yn brifathro ac yn rhan o'r ddeuawd 'Dafydd Iwan ac Edward' a 'Chwm Rhyd y Rhosyn'. Roedd ei fam yn athrawes ac wedi gweithio gyda Mudiad Meithrin a Merched y Wawr.[3]

Mynychodd Ysgol Rhyd-y-Main, Dolgellau am ychydig, cyn symud i Ynys Môn a mynychu Ysgol Gynradd Llandegfan, cyn cael ei addysg uwchradd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.[4] Yna aeth i Brifysgol Caerdydd ble graddiodd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth yn 1993.[2]

Gyrfa newyddiaduraeth

[golygu | golygu cod]

Ymunodd Rhun gyda BBC Cymru ym 1994, a bu'n gohebu ar ddigwyddiadau San Steffan a Bae Caerdydd ar deledu a radio. Roedd hefyd yn gyflwynydd ar raglenni Post Cyntaf a Dau o'r Bae ar Radio Cymru ac ar Newyddion S4C, yn ogystal a rhaglenni Saesneg y BBC fel The Politics Show Wales a Dragon's Eye.[2]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Gadawodd Ieuan Wyn Jones ei swydd fel aelod o'r Senedd dros Ynys Môn i arwain parc gwyddoniaeth newydd M-SParc. Yn dilyn hyn, a chyn yr isetholiad ar gyfer yr ynys yn 2013, ymddiswyddodd Rhun o'r BBC ac fe gafodd enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd.[2] Daeth yn Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn Awst 2013 ar ôl ennill yr isetholiad yn gyfforddus.[2][5]

Yn 2018, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, y byddai'n croesawu her i'w arweinyddiaeth. Ar y diwrnod hwnna lawnsiwyd ymgyrchoedd Rhun ac Adam Price ar gyfer yr arweinyddiaeth. Enillodd Adam Price gyda 49.7% o'r pleidleisiau a chafodd Rhun ap Iorwerth 28% a Leanne Wood, 22.3%.[2]

Yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru, ar 30 Mai 2023 cyhoeddodd Rhun y byddai yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ni chafwyd unrhyw ymgeisydd arall erbyn y dyddiad cau a cadarnahwyd Rhun fel yr arweinydd newydd ar 16 Mehefin 2023.[5]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd. Rhun ap Iorwerth (27 Awst 2012). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "Plaid Cymru: Pwy yw'r arweinydd newydd Rhun ap Iorwerth?". BBC Cymru Fyw. 2023-06-16. Cyrchwyd 2024-06-02.
  3. Shipton, Martin (2013-08-03). "Rhun ap Iorwerth: My mother's death pushed me into politics". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-21.
  4.  Elgan Hearn (30 Tachwedd 2011). Ysgol David Hughes hold a school "hawl i holi" meeting with local politicians. Daily Post. Adalwyd ar 2 Awst 2013.
  5. 5.0 5.1 "Rhun ap Iorwerth yw arweinydd newydd Plaid Cymru". Golwg360. 2023-06-16. Cyrchwyd 2023-06-16.