Robert Gwynn Davies
Robert Gwynn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ionawr 1920 Waunfawr |
Bu farw | 12 Hydref 2007 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfreithiwr |
Cysylltir gyda | Antur Waunfawr |
Cyfreithiwr o Gymru a sylfaenydd Antur Waunfawr oedd Robert Gwynn Davies (19 Ionawr 1920 – 12 Hydref 2007). Fe'i urddwyd i’r wisg wen yn Eisteddfod Cwm Rhymni 1990; cafodd gynnig O.B.E. ar gyfer Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd Ionawr 1989 – ond fe'i gwrthododd.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed yn Tŷ Gwyn, Waunfawr, mab hynaf Jane Eunice Davies (1888–1978) ac Edward Davies (1886–1926). Ar ôl colli ei dad, symudodd gyda’i fam a’i frawd, Dewi, i 'Glanfa' at ei nain (Ellen Jones) a'i ewythr (W.H. Jones a gadwai Siop Bryn Pistyll). Mynychodd Ysgol y Cyngor, Waunfawr ac yna Ysgol y Sir, Caernarfon.
Priododd Mary Beta Jones (28 Mai 1921 – 13 Mawrth 2006) yn Waunfawr ac ymgartrefodd yn Gilfach. Ganed iddynt Sioned Gwynn Davies (1954-2022) a Gwion Rhys Gwynn Davies (1958). Symudodd y teulu i Bryn Eithin, a bu fyw yno hyd ei farwolaeth [2]
Ei waith
[golygu | golygu cod]Ar ôl gadael yr ysgol aeth i wneud erthyglau i fod yn gyfreithiwr yn swyddfa Ellis Davies yng Nghaernarfon. Yn ystod y rhyfel cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol ac yng Ngorffennaf 1940 gan dreulio cyfnod y rhyfel yn was ffarm i Garreg Fawr, Waunfawr. Dychwelodd i’r swyddfa yn 1946 yna mynychu coleg yn Guildford cyn cymhwyso fel cyfreithiwr a mynd i weithio yn 1950 i R. Gordon Roberts & Co, Llangefni fel cyfreithiwr cynorthwyol ac yna’n bartner.
Symudodd i weithio yn 1957 fel Cyfreithiwr Cynorthwyol i Gyngor Sir Gaernarfon, yna’n Uwch Gyfreithiwr Cynorthwyol a Chlerc Cynorthwyol y Cyngor. Yn 1972 aeth yn Glerc Ynadon Bangor, Conwy/Llandudno a Betws y Coed ond ymddeol yn gynnar yn 1983 i weithio i’r Comisiwn Iechyd Meddwl ac yna sefydlu Antur Waunfawr fel cwmni corfforedig gyda statws elusennol ar 22 Mehefin 1984.
Yn ogystal bu yn gyfarwyddwr Gwasanaeth Adfocatiaeth a Chynghori Gogledd Cymru (28/1/1997 – 12/10/2007), cyfarwyddwr Anabledd Dysgu Cymru (8/9/1992 – 30/9/1994) a chadeirydd SCOVO (dan adain Strategaeth Cymru Gyfan 1983).
Diddordebau
[golygu | golygu cod]Enillodd gadair Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn 1993 a derbyniodd fedal Syr T.H Parry Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Tŷ Ddewi, 2002. Bu'n aelod o dȋm Talwrn y Beirdd Waunfawr a ddaeth i’r brig yn 2003.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac roedd yn aelod o Blaid Cymru. Ymhlith ei ddiddordebau eraill roedd gwaith pren, celf, gwneud gwin cartref a chwarae golff.
Ei athroniaeth
[golygu | golygu cod]“ |
Mae gan pob person gyfrifoldeb i wasanaethu cymdeithas hyd eithaf ei allu ac yn ôl safon ei allu, a’r hawl i gael gwneud hynny pa un a yw yn anabl neu beidio. |
” |
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Anturiaf Ymlaen, Cyfres y Cewri 13 (Gwasg Gwynedd, 1994)
- Y Waun a’i Phobl (Antur Waunfawr, 1996)
- John Evans, Waunfawr (Antur Waunfawr, 1999) – Darlith Undeb Cymru a’r Byd, Eisteddfod Genedlaethol Môn