Saintonge
Rhanbarth hanesyddol yn ne-orllewin Ffrainc oedd Saintonge. Roedd y ffiniau yn amrywio dros y canrifoedd, ond safai rhwng Aquitaine, Poitou ac Anjou. Rhennir y diriogaeth heddiw rhwng pump département, Charente-Maritime, Charente, Gironde, Deux-Sèvres a Vendée.
Bu'r diriogaeth yn destun llawer o ymrafael rhwng llinach y Capetiaid a llinach Plantaganet. Daeth yn eiddo'r Plantaganet yn 1152, trwy briodas Eleanor o Acquitaine. Yn 1258, daeth yn rhan o Ddugiaeth Guyenne, a ildiwyd i Harri III, brenin Lloegr gan Louis IX, brenin Ffrainc. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd yn rhan o diriogaethau'r Saeson yn Ffrainc, dan reolaeth Edward y Tywysog Du, ond tyfodd anfodlonrwydd ymhilth y trigolion oherwydd ei drethi uchel. Rhoddodd hyn y cyfle i frenin Ffrainc ymgyrchu yma, ac yn 1371, fe'i meddiannwyd dros Ffrainc gan Bertrand du Guesclin. Yn 1375 fe unwyd Saintonge yn derfynol â choron Ffrainc gan Siarl V.
Pobl enwog o Saintonge
[golygu | golygu cod]- Samuel de Champlain (1580-1635), sylfaenydd dinas Québec
- Guy Chabot de Saint-Gelais
- François I, brenin Ffrainc (1494-1547)
- Pierre Loti (1860-1923), awdur.
- François Mitterrand (1916 - 1996), Arlywydd Ffrainc