Seattle
Arwyddair | The City of Flowers |
---|---|
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig, dinas fawr |
Enwyd ar ôl | Chief Seattle |
Poblogaeth | 737,015 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bruce Harrell |
Cylchfa amser | UTC−08:00, Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel, UTC−07:00 |
Gefeilldref/i | Gdynia |
Daearyddiaeth | |
Sir | King County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 369.243614 km², 369.466202 km² |
Uwch y môr | 40 metr |
Gerllaw | Llyn Union, Elliott Bay, Green Lake, Llyn Washington, Puget Sound |
Yn ffinio gyda | Shoreline, SeaTac, Bellevue, Lake Forest Park, Renton |
Cyfesurynnau | 47.6°N 122.3°W |
Cod post | 98101 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Seattle |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Seattle |
Pennaeth y Llywodraeth | Bruce Harrell |
Dinas yn yr Unol Daleithiau yw Seattle. Gyda phoblogaeth o 608,660 yn 2010, hi yw dinas fwyaf talaith Washington a gogledd-orllewin yr Unol Daleithiau. Saif y ddinas ar guldir rhwng Swnt Puget a Llyn Washington, tua 183 km (114 milltir) i'r de o'r ffin â Chanada. Fe'i lleolir yn King County.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Adeilad Pioneer
- Arthur Foss (llong)
- Eglwys Gadeiriol Sant Iago
- Y Nodwydd Ofod
- Tŵr Smith
- Tŷ Norvell
Cludiant
[golygu | golygu cod]Rheilffordd ysgafn Link
[golygu | golygu cod]Mae Link yn estyn o Lyn Angle i Brifysgol Washington, trwy ganol y ddinas a heibio Maes Awyr Sea-Tac.
Bysiau Metro King County
[golygu | golygu cod]Mae’r cwmni yn rhedeg gwasanaethau bysiau’r ddinas.
Tramiau Seattle
[golygu | golygu cod]Mae gan y ddinas 3 dramffordd, South Lake a First Hill.
Rheilffordd ungledrog Canolfan Seattle
[golygu | golygu cod]Mae trenau’n mynd bob 10 munud rhwng Canolfan Westlake a Chanolfan Seattle.
Amtrak
[golygu | golygu cod]Mae trenau Amtrak yn mynd o Gorsaf reilffordd Heol King, Seattle, yn ymyl stadiwm y Seattle Seahawks. Mae 3 o drenau’n gwasanaethu Seattle: y Coast Starlight rhwng Seattle, Portland (Oregon) a Los Angeles; yr Amtrak Cascades rhwng Vancouver, Seattle, Tacoma, Portland, Salem (Oregon) a Eugene; a’r Empire Builder rhwng Chicago, Minneapolis/St Paul, Spokane, Portland a Seattle.[1]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Max Brand (1892-1944), nofelydd
- Gypsy Rose Lee (1911-1970), actores
- Joe Sutter (g. 1921), peiriannydd
- Jimi Hendrix (1942-1970), cerddor
- Kenny G (g. 1956), cerddor
- David Guterson (g. 1956), nofelydd
Gefeilldrefi Seattle
[golygu | golygu cod]- - Beer Sheva, Israel
- - Bergen, Norwy
- - Cebu, Pilipinas
- - Chongqing, Tsieina
- - Kaohsiung, Taiwan
- - Christchurch Seland Newydd
- - Daejeon, De Corea
- - Galway, Iwerddon
- - Gdynia, Gwlad Pwyl
- - Haiphong, Fietnam
- - Kobe, Japan
- - Limbe, Camerŵn
- - Mazatlán, Mecsico
- - Mombasa Cenia
- - Naoned, Ffrainc
- - Pécs, Hwngari
- - Perugia, Yr Eidal
- - Reykjavík, Gwlad yr Iâ
- - Sihanoukville, Cambodia
- - Surabaya Indonesia
- - Tashkent, Wsbecistan
- - Izmir, Twrci