Seljalandsfoss
Math | rhaeadr |
---|---|
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Cyfesurynnau | 63.6158°N 19.9928°W, 63.615452°N 19.988276°W |
Mae Seljalandsfoss yn rhaeadr yng Ngwlad yr Iâ.[1] Lleolir Seljalandsfoss yn Rhanbarth y De, wrth ymyl y brif ffordd sy'n amgylchynu'r ynys, Ffordd 1 ar hyd y ffordd sy'n arwain at Þórsmörk, Ffordd 249.[2] Ystyr yr enw yw rhaeadr Seljaland
Cwympa'r rhaeadr 60m ac mae'n rhan o afon Seljalands sy'n tarddu yn rhewlif llosgfynydd Eyjafjallajökull.[3] Gall ymwelwyr gerdded y tu ôl i'r rhaeadr.[4] Dyma oedd y llosgfynydd enwog a ffrwydrodd yn 2010 gan achosi anhawsterau i awyrennau hedfan i Wlad yr Iâ.[5]
Dadlau
[golygu | golygu cod]Yn 2017 achosodd cynlluniau i adeiladu canolfan wybodaeth 2000m sgwâr ac 8 metr o uchder ger y rhaeadr dadlau mawr ar yr ynys.[6] Dadleua'r gwrthwynebwyr y byddai'r datlygiad yn anharddu golygfa a natur yr ardal a'r atyniad.[6][7]
Ymweliadau Ysgolion
[golygu | golygu cod]Mae Seljalandsfoss yn rhan o deithiau disgyblion ysgol o Gymru sy'n ymweld â Gwlad yr Iâ. Rhan o atyniad y rhaeadr yw fod modd i ymwelwyr sefyll y tu ôl iddi ac edrych trwy len y dŵr sy'n cwympo ar yr olygfa.
Diwylliant Poblogaidd
[golygu | golygu cod]Roedd Seljalandsfoss ar hyd cymal cyntaf The Amazing Race 6.
Mae fideo swyddogol cân Justin Biebier, I'll Show You yn cynnwys lluniau o lagwns ac afonydd rhewlifau yn ne'r ynys gan gynnwys Seljalandsfoss.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Iceland's Most Famous Waterfall Is Big Enough To Stand Inside, Which Is Pretty Incredible". The Huffington Post. 4 June 2014. Cyrchwyd 3 October 2015.
- ↑ Google Maps
- ↑ The Beautiful Waterfalls of South-Iceland; Seljalandsfoss, Skógafoss & Gljúfrabúi
- ↑ eland.com/places_and_photos_from_iceland/seljalandsfoss "Seljalandsfoss" Check
|url=
value (help). Hit Iceland. Cyrchwyd 18 November 2017.[dolen farw] - ↑ https://www.theguardian.com/travel/2010/apr/15/iceland-volcano-flights-disruption
- ↑ 6.0 6.1 "Rauði bragginn gefur "mjög svo ranga mynd" af þjónustumiðstöðinni – Vísir". visir.is. Cyrchwyd 2017-05-09.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw:1
- ↑ Hafstad, Vala (3 November 2015). "Justin Bieber's Video, 'I'll Show You' (Iceland)". Iceland Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-22. Cyrchwyd 21 November 2015.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Gwybodaeth bellach am Seljalandsfoss ar Hit Iceland Archifwyd 2018-07-26 yn y Peiriant Wayback
- Seljalandsfoss[dolen farw] at the IMDb
- Rhith daith panoramig Archifwyd 2016-04-28 yn y Peiriant Wayback