Taiwan
Gweriniaeth Ffederal Brasil 中華民國 (Tsieineeg) Zhōnghuá Mínguó (Pinyin) | |
Math | ynys-genedl, gweriniaeth ddemocrataidd, gwlad, gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd |
---|---|
Prifddinas | Taipei |
Poblogaeth | 23,412,899 |
Sefydlwyd | 1 Ionawr1912 (Proclamatiwn) 25 Hydref 1945 (O dan gweriniaeth Tsieina: ROC) 7 Rhagfyr 1949 (ROC yn cilio i Taiwan) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Gweriniaeth Tsieina |
Pennaeth llywodraeth | Cho Jung-tai |
Cylchfa amser | UTC+08:00, Asia/Taipei, amser yn Taiwan |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iaith Genedlaethol Gweriniaeth Tsieina, Taiwanese Hakka, Hokkien Taiwan, Amis, Paiwan, Kinmen dialect, O-ku-uā, Matsu dialect, Taiwanese Sign Language, Saisiyat, Puyuma, Atayal, Tsou, Bunun, Rukai, Truku, Seediq, Sakizaya, Yami, Kavalan, Kanakanavu, Saaroa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia |
Gwlad | Taiwan |
Arwynebedd | 36,193 km² |
Gerllaw | Môr Dwyrain Tsieina, Culfor Taiwan, Culfor Bashi, Y Cefnfor Tawel, Môr De Tsieina, Môr y Philipinau |
Yn ffinio gyda | Japan, y Philipinau, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Cyfesurynnau | 24°N 121°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Y Gweithredwr Yuan |
Corff deddfwriaethol | Yr Yuan Deddfwriaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gweriniaeth Tsieina |
Pennaeth y wladwriaeth | Lai Ching-te |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Gweithredwr yr Yuan |
Pennaeth y Llywodraeth | Cho Jung-tai |
Crefydd/Enwad | Bwdhaeth, Taoaeth, crefydd gwerin Tsieina |
Arian | Doler Newydd Taiwan |
Canran y diwaith | 3.39 canran |
Cyfartaledd plant | 1.07 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.911 |
Gwlad yn Nwyrain Asia ydy Taiwan, a gaiff ei adnabod yn swyddogol fel Gweriniaeth Tsieina (Tsieineeg traddodiadol: 台灣), Pescadores, Quemoy, Matsu, Pratas. Prifddinas y wladwriaeth yw Taipei, ar ynys Taiwan. Yn ffinio â'r weriniaeth mae Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gorllewin, Japan i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain a Gweriniaeth Y Philipinau (neu'r Philipinau) i'r de. Taipei ydy'r brifddinas swyddogol yn ogystal â chanolbwynt diwylliant ac economeg y wlad.
Hanes
[golygu | golygu cod]Hyd at 10,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gododd lefel y môr, roedd yr ynys yn sownd yn y tir mawr. Cafwyd hyd i olion dyn ar yr ynys sy'n dyddio'n ôl i rhwng 20,000 a 30,000 o flynyddoedd.[1] Ychydig dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl ymfudodd ffermwyr o dir mawr Tsieina i'r ynys; credir mai'r rhain yw cyndeidiau Brodorion Taiwan. Roedd eu hiaith yn perthyn i ieithoedd Awstralaidd. Yn y 13g setlodd Tsieiniaid Han ar ynysoedd Penghu ond roedd brodorion Taiwan yn anghroesawgar tuag atynt. Dim ond ychydig bysgotwyr fedrai sefydlu yno, tan yr 16g.[2]
Gwladychwyd rhannau o'r ynys gan Iseldirwyr (Vereenigde Oost-Indische Compagnie) a Sbaenwyr yn 1626. Roeddent ill dau'n awyddus i ddefnyddio'r ynys fel troedle i farchnata. Yn dilyn cwymp Brenhinllin Ming daeth unoliaethwr Mingaidd i'r ynys, sef dyn o'r enw Koxinga gan hel yr Iseldirwyr (1662) ac ymosod ar dir mawr Tsieina. Lladdwyd ei ŵyr yn 1683 gan Shi Lang o dde Fujian, fe unwyd Taiwan gyda Qing.
Yn rhyfeloedd Sino-Japan 1894-1895, gorchfygwyd yr Ymerodraeth Qing gan Japan a chychwynwyd ar unwaith ar y gwaith o ddiwydiannu'r ynys e.e. porthladdoedd a rheilffyrdd. Erbyn 1938 roedd dros 309,000 o Japaniaid yn byw yn Taiwan.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Saif ynys Taiwan tua 180 kilometr i'r de-ddwyrain o Tsieina, ar draws Culfor Taiwan ac mae ganddo arwynebedd o 35,883 km2 (13,855 mi sgw). Mae cryn wahaniaeth rhwng dau draean dwyreiniol yr ynys a'r traean gorllewinol. Mae'r ochr ddwyreiniol yn bum rhes o fynyddoedd geirwon sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de. Mynydd uchaf Taiwan ydyYu Shan sy'n 3,952 m o uchder. Ceir pum copa arall sydd dros 3,500 metr ar yr ynys. Dyma, felly bedwaredd ynys uchaf ar y Ddaear.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chang, K.C. (1989). translated by W. Tsao, ed. by B. Gordon. "The Neolithic Taiwan Strait". Kaogu 6: 541–550, 569. http://http-server.carleton.ca/~bgordon/Rice/papers/App.18ChangKC89.pdf. Adalwyd 2012-06-14.
- ↑ Shepherd, John R. (1993). Statecraft and Political Economy on the Taiwan Frontier, 1600–1800. Stanford University Press. t. 7. ISBN 978-0-8047-2066-3. Reprinted Taipei: SMC Publishing, 1995.
- ↑ "Tallest Islands of the World — World Island Info web site". Worldislandinfo.com. Cyrchwyd 1 Awst 2010.
Gwaith a gyfeiriwyd
[golygu | golygu cod]- Fenby, Jonathan (2009). The Penguin History of Modern China: The Fall and Rise of a Great Power, 1850–2009. Penguin Books. ISBN 0-7139-9832-6.CS1 maint: ref=harv (link)
- "2008 White Paper On Taiwan Industrial Technology" (PDF). Department of Industrial Technology. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-04-29. Cyrchwyd 27 November 2009.
- Fung, Edmund S. K. (2000). In search of Chinese democracy: civil opposition in Nationalist China, 1929–1949. Cambridge modern China series. Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-77124-5.CS1 maint: ref=harv (link)
- Makinen, Gail E.; Woodward, G. Thomas (1989). "The Taiwanese hyperinflation and stabilization of 1945–1952". Journal of Money, Credit and Banking 21 (1): 90–105. JSTOR 1992580. https://archive.org/details/sim_journal-of-money-credit-and-banking_1989-02_21_1/page/90.
- Makeham, John; Hsiau, A-chin, gol. (2005). Cultural, Ethnic, and Political Nationalism in Contemporary Taiwan: Bentuhua. New York: Palgrave Macmillan. ISBN 978-1-4039-7020-6.CS1 maint: ref=harv (link)
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- "Taiwan Flashpoint". BBC News. 2005.
- Bush, R.; O'Hanlon, M. (2007). A War Like No Other: The Truth About China's Challenge to America. Wiley. ISBN 0-471-98677-1.
- Bush, R. (2006). Untying the Knot: Making Peace in the Taiwan Strait. Brookings Institution Press. ISBN 0-8157-1290-1.
- Carpenter, T. (2006). America's Coming War with China: A Collision Course over Taiwan. Palgrave Macmillan. ISBN 1-4039-6841-1.
- Cole, B. (2006). Taiwan's Security: History and Prospects. Routledge. ISBN 0-415-36581-3.
- Copper, J. (2006). Playing with Fire: The Looming War with China over Taiwan. Praeger Security International General Interest. ISBN 0-275-98888-0.
- Federation of American Scientists (2006). "Chinese Nuclear Forces and US Nuclear War Planning" (PDF).
- Feuerwerker, Albert (1968). The Chinese Economy, 1912–1949. Ann Arbor: University of Michigan Press.
- Gill, B. (2007). Rising Star: China's New Security Diplomacy. Brookings Institution Press. ISBN 0-8157-3146-9.
- Shirk, S. (2007). China: Fragile Superpower: How China's Internal Politics Could Derail Its Peaceful Rise. Oxford University Press. ISBN 0-19-530609-0.
- Tsang, S. (2006). If China Attacks Taiwan: Military Strategy, Politics and Economics. Routledge. ISBN 0-415-40785-0.
- Tucker, N.B. (2005). Dangerous Strait: the US-Taiwan-China Crisis. Columbia University Press. ISBN 0-231-13564-5.