Tata Motors
Gwedd
Math | cynhyrchydd cerbydau |
---|---|
ISIN | INE155A01022 |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 1945 |
Pencadlys | Mumbai |
Cynnyrch | lori |
Nifer a gyflogir | 27,948 (31 Mawrth 2014) |
Is gwmni/au | Jaguar Land Rover |
Lle ffurfio | Mumbai |
Gwefan | https://www.tatamotors.com/, https://www.nexonev.tatamotors.com |
Un o gwmniau'r Tata Group ydy Tata Motors a adnabyddid yn y gorffennol fel TELCO (Tata Engineering and Locomotive Company) ac sydd a'i bencadlys yn Mumbai, India. Mae'n gwmni sy'n canolbwyntio ar gerbydau a moduron, gan gynnwys ceir, faniau, bysus a cherbydau militaraidd.[1]
Mae gan Tata Motors ffatrioedd cynhyrchu cerbydau yn: Jamshedpur, Pantnagar, Lucknow, Sanand, Dharwad, a Pune yn India, yn ogystal ag yn yr Ariannin, De Affrica, gwledydd Prydain a Gwlad Tai. MAe ei ganolfannau ymchwil a datblygu yn Pune, Jamshedpur, Lucknow, a Dharwad, India ac yn Ne Corea. Tata Motors yw perchennog Jaguar Land Rover ers ei brynnu gan gwmni ceir Ford yn 2008, sef gwneuthurwyr y ceir Jaguar a Land Rover, a nifer o gwmniau a mathau eraill o geir.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Financials of Tata Motors Limited". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-16. Cyrchwyd 2016-12-28.